Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nì . íVí'^v* y Jÿsf Dirwesfol Pris Ceíniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cyfrol IX. EBRILL, 1906. Rhif 100. Cynwusiad. Cadben G. B. Thomas Y Murleni a Dirwest Congl y Plant Gwers i'r Ysgrifenydd Ieuanc Llysoedd Trwyddedol Gwrecsam, 1903-1906 Brwydr y Beirdd .. Min y Ffordd Yfed trwin a gwario mawr — Deffroad Dirwestol yr Ynya Werdd — Gweithgarwch gyda Dirwest— Cyngor Eglwysi Rhyddion Prydain Fawr — Llais y Bobl a Bargen yr Ynadon—Cydmariaeth — Dar- ostyngiad ar egwyddor dda— Ffoledd a Chabledd Llenyddiaeth Y diweddar Cadben G. B. Thomas. Cadben G. B. Thomas. Gan y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon, YíflOLLED fawr i gymdeithas ydyw colíi %) dyn cryf o ddeall a chymeriad. Mae y dyn cryf mewn cymdeithas yn debyg iawn i'r hyn yw y mynydd mawr mewn gwiad. Y mynydd uchel sydd yn cysgod- i'r dyfFryn tawel, ac i fesur, efe sydd yn penderfynu pa flodeu gaift dyfu yn y gerddi a pha ffrwythau gaiff addfedu yn y per- Ilanau. Felly y mae dyn cryf mewn cym- deithas; efe sydd yn cysgodi gwerin gwlad, ac i raddau helaeth, efe sydd yn dweyd beth fydd hinsawdd deall a moes y cyfìred- in-bobl yn ei ardal. Dyn cryf oedd y Cadben G. B.Thomas ; a bu yntau yn gysgod ac yn achles i lawer achos gwan yn ei ddydd ; a gwnaeth fwy nag aml un o'i gydoeswyr tuag at ddefìro meddwl a chreu chwaeth at ddarllen a myfyrio yn meddyliau pobl ieuainc Caer- narfon a'r wlad oddiamgylch, a chododd tô o ddynion meddylgar, yn cymeryd dydd- ordeb yn y ser a'r ddaear, o'i gylch fel y tyf perlìanau a gerddi ffrwythlon yn nghys- god y Wyddfa. Ganwyd George Burton Thomas mewn heol sydd a chysgod llaith muriau garw hen garchar Caernarfon yn disgyn yn drwm arni. A bu raid i'n gwrthddrych chwareu yn nghysgod y caichar pan oedd yn Uanc ; ac nis gallasai fyned allan i'r byd heb i gysgod caethiwed ddisgyn yn drwm ar ei fywyd, a phwy a wyr na bu hyny yn foddion i ddefìro a meithrin yn ei fynwes ieuanc yr awydd angerddol am ryddid ac annibyniaeth fu mor nodweddiadol o hono ar hyd ei oes.