Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

M t**~ V J'ysí Dirwesfol Pris Ceiniog, Dan Olygiaeth y Parch. ELLIS JONES, Bangor. Cufrol IX MAWRTH, 1906. Rhif 99. Cynwysiad Athrylith a Chyfeddach .. • • 33 Min y Ffordd ; Ymwrthod a'r ddiod a Phrynu Tir —" Ac feaoerasel llawer"—Y ' Times' ar Ddirwest—Y cyfnewidiad yn fawr eisoes —Eto y mae lle—Yr yfed yn mysg merched —Y Ddiod a Darfodedigaeth. ... 36 Ton : I'r Gad .. .. .. 39 Aelodau Seneddol Cymreig a'r Llysoedd Trwyddedol ... .. ..40 Bwrdd yr Alliance .. ... .. 41 Yn y Llysoedd Trwyddedu .. •••43 Congl y Plant .. .. • • 44 Tafarndy y Pentref a'i effeithiau dinystriol ... 46 Äthrylith a Chyfeddach. §CRIFENNWYD llawer o bryd i gilydd ar ddylanwad llymeitian ar goríì dyn. Gwelsora ein hunain pa mor hagr yw gwedd ambell un a anrheithiwyd gan flynyddoedd o feddwi—y llygaid llwyd- goch, y wefus ddiwrid, yr olwg afluniaidd, y cerddediad ysig sydd iddo druan ! Eithr mwy gofìdus fyth yw deall am y niwed a bâr cyíeddach i feddwl dyn; fel y mae byw- iogrwydd graenus a naturioldeb y meddwl yu cilio, a'r holl gynheddfau yn pylu a cholli eu grym. Fel rheol y mae alcohol yn gwneyd y dosparthiadau mwyaf medd- ylgar a chelfydd a gwasanaethgar yn nod iddo: y cewri sydd yn cael eu daros- twng yn mhobcylch, neu o'r hyn lleiaf tyn eu cwymp hwy fwy o'n sylw. Faint o feddygon sydd yn marw bob blwyddyn yn feddwon ? Faint o bre- gethwyr sydd wedi myn'd dan draeddrwy lymeitian ? Faint o feirdd a llenorion yr Eisteddfod aeth dan y cwmwl cyn diwedd eu hoes ? Faint o gantorion per pob gwlad fu yn dlodion diraen oherwydd ym- droi yn nghornel y dafarn rhwng gwahan- ol gyngherddau ? Faint o gadfridogion a swyddogion milwrol wneir yn ebyrth par- haus i'r ddiod ? Faint o gyfreithwyr med- rus sydd yn cerdded o ddioty i ddioty, ac yn colli pob dyddordeb yn eu gwaith ? Nid dynion cyffredin yn unig a ddelir yn y delm, ond rhai o'r gwyr craffaf a galluocaf a fedd y byd mewn cylchoedd eraill. Anghofìa'r marsiandwr ei urddas a llith- ra'n ddiarwybod i arferion y sotyn salaf yn y tir. Gedy'r cerflunydd dihafal ei gŷn a'i forthwyl yn ymyl y ddelw farmor, a gwelir ef yn llercian fel hurtyn cibddall yn nrws y gyfeddach. Cefna'r cerddor ar ei offeryn hoff, a di- ystyria bob ysprydoliaeth gan ddisgyn i gongl y Uuest isel, lle daw bechgynos pen- ffair i gyd-yfed. Nid yw safle'n ddim ; nid yw athrylith yn ddim ; nid yw anwyl- deb teuluol yn ddim; nid yw cyfamod sar.ctaidd yn ddim,—pan fo cyfaredd y gwin a'r gwirod wedi meistroli dyn. Ac onid yw'r gallu fedr wneyd hafoc ar ddyn- ion goreu'r byd yn allu melldigaid iawn, ac yn un y dylai pob dyn roi bloedd yn ei erbyn nes y clyw cyrion eithaf y cread os oes modd ? Beth petaem yn edrych ar ddylanwad meddwdod ac athrylith. Athrylith! mae hud yn y gair; nac ynganed neb ef yn ddiystyr. Dyma lle y mae dyn yn dringo, dringo nes cyffwrdd Duw. Y gallu rhy- feddaf a fedd y byd: y gallu sydd yn y ddynoliaeth yn creu, darganfod, a dyfeisw: creu yn y bardd, dyfeisio yn y peirianydd, darganfod yn y gwyddon. Mae yn ymyl talent fel yr haul yn ymyl y lloer, neu y mor yn yrcyl y Uyn. All neb gyfrif am y