Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CŸF. X. HFDREF, 1906. RHIF Gwraíg y Cenhadwr. " Dos\ dyweii im brodyr" ie, dyna y geiriau Ddiferodd dros wefus yr Iesu wrth Mair. Oedd yno neb arall mwy buan ei gamrau ? Oedd yno neb cryfach i adrodd y gair? 'Doedd yno, beth bynag, neb mor benderfynol A'r wylaidd ferch dyner a safai gerllaw. Mae cariad at Iesu yn nerth anorchfygol, A'r nef ddengys hyny ryw ddiwrnod a ddaw. '' Dos, dywedim brodvr," rhyw eiriau o'r beddrod Yn dangos tynerwch Iachawdwr y byd ; Yr awel wrth basio a'u hoffodd yn h\nod, Mae'n cario'r dymuniad o gwmpas o hyd. Er treigliad canrifoedd, mae'n eglur, er hyny, " Dos, dvwed t'm brodyr" — O ! eiriau llawn hedd ! Nis gellir ymatal rhag gweithio dros Iesu, Os treulir un funud wrth ymyl ei fedd. Mae'n cychwyn gyda'i gwr, ar neges dros yr Iesu ; Mae'n myn'd at lan y dwr, a'r ffarwel awr yn nesu ; Ac O ! ofnadwy yw—cleddyfau'n tori'n yfflon Yr holl gylymau aur oedd rhyngddi a'i chyfeillion. Ond fel y frwynen fach, ar ol i'r storm fyn'd drosti, Hi gwyd ei phen yn iach, bu'r genlli'n fywyd iddi. Fel hyn 'r ystorom hon, i fwynaidd wraig^Cenhadwr, Mae'n enill serch ei bron yn llwyrach i'r Gwaredwr. Dacw'r llong draw^ ar yr eigion— Hithau'n eistedd ynddi'n syn ; Fry i'r nef mae ei golygon, Tra yn sisial cân fel hyn :—