Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CFF X. GORPHENAF, 1906. RHIF 118. Mrs. Míchael Jones, Fflínt. Da genym roddi darlun o Mrs Michael Jones,—un sydd a'i henw yh adnabyddus i lawer iawn o ddarllenwyr Y Gymraes, ac un sydd 3Tn ffrynd mawr iddi, ac yn rhanu llawer o honi yn fisol. Mae ei henw yn air teuluaidd yn Fílint, ac er fod pwys deunaw a thriugain o flwyddau ar ei hysgwyddau, edrycha yn dda a heinyf. Y mae wedi gwneyd ei goreu gyda Dirwest ar hyd ei hoes, ac wedi gweithio yn ddiwyd ac egniol gyda phob achos da arall yn y dref a'r cylch. Os cynhelir unrhyw gyfarfod Crefyddol, neu Ddyngarol, neu Ddir- westol, bydd pawb yn edrych am Mrs. Jones yno, gan mor ffyddlawn yw i bob achos teilwng o gefnogaeth. Fel ei diweddar briod, y Parch. Michael Jones, mae wedi bod yn hynod ofalus a ffyddlon o'r achos yn Nghaersalem. Edrychir arni fel mam yn lsrael. Mae ei