Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CFF. X. MEHEFIN, 1906 RHIF 117. Mrs. (Dr.) Fraser, Caernarfon. Un o ferched Mon—mam Cymru—yw gwrthddrych y darlun uchod. Mor ddyledus ydym i'r lien fam am liaws o bregethwyr, beirdd a Uenorion o enwogrwydd cenedlaethol, ac yn y chwaer hon ceir un allasai dd'od i amlygrwydd mawr fel cantores pe buasai wedi rho'i ei bryd ar hyny, ond dewisodd hi yn hytrach wasanaethu ei chenedl mewn cylch llai, ond pwysig, er hyny. Cafodd hi, fel bron bawb sydd yn adnabyddus heddyw fel gweithwyr Cristionogol, ei magu ar aelwyd grefyddol yn Llangefni. Yr oedd ei mam yn wraig hynod rinweddol, doeth a gofalus am ei theulu. Cafodd Cymdeithas Dorcas ynddi arweinyddes ffyddlon am lawer o flynyddoedd, a phan oedd wrth ei hoff waith o edrych am y cleifion y daeth yr