Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CFF. X. EBRILL, 1906. RHIF 115. Mrs. Evan Owen, Líverpooí. Adnabyddus a hoff gan lu mawr o ferched Cymru yw Mrs. Owen. Chwaer anwyl iawn ydyw, a bydd ei gweled bob amser yn dod a phelydr o sirioldeb ac o fîydd i'n calon. SŴY mae miloedd yn Nghymanfaoedd Dirwestol Gwynedd, ac Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, wedi bod yn gwrando ei hyawdledd swynol. Bydd ei hanerchiadau bob amser yn llawn o dynerwch, a chrefyddoíder ysbryd diamheuol yn dod yn amlwg drwyddynt. Y mae wedi teithio llawer ar hyd Cymru, a rhai o drefi Lloegr i anerch ar Ddirwest, ac heblaw hyn, y mae ei llafur cartrefol yn helaeth ac amrywiol, a'r gwir am dani yw,—y mae yn " helaeth-