Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

]J? (Bçmraes. Cyf. IX. EBRILL, 1905. Rhif 103. Mrs. Fotslkes-Jones, Machytiíleth. Daw i ni y mis hwn eto, y fraint o gyflwyno i ddarllenwyr Y Gym- Raes, ddarlun o foneddiges sydd yn dwyn arni un o enwau anwylaf 'Cymru, ac un sydd hefyd yn diogelu 'yn berffaith anwyldeb yr enw 'hwnw. Buasai yn dda, ni wyddom, gan ein darllenwyr gael darlun ein chwaer pe na buasai ond oblegid iddi fod yn briod a'r diweddar Barchedig John Foulkes-Jones o serchog a sanctaidd gofíadwriaeth. 'Ond i bawb a adwaenant Mrs. Foulkes-Jones—ac i bwy y rnae cylch eangach o gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch ?—buasai oriel merched -anrhydeddus Cymru yn anghyflawn heb ei darlun hi. Cawsom y fraint o fod gryn lawer yn nghwmni Mrs. Jones gartref ac oddicartref, ei gweled yn neillduaeth yr aelwyd ac yn nghyoedd- usrwydd y llwyfan ; gwỳddom am ei lletygarwch diarhebol, ei char- edigrwydd hael ac amryfal, ei hysbryd cenhadol byw, ei dyddordeb ■a 1 hymdrech ar ran pob achos da, a'i pharodrwydd i roddi ysgwydd