Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1? ($£mrae6* Cyf. IX. MAWRTH, 1905. Rhif 102. S. M. S. Wedi darganfod — nià er ein syndod—mor dra chymeradwy yw •darluniau Mamau Cymru a'u plant gan ddarllenwyr 'Y Gymraes/ yr ydym yn eu anrhegu y tro hwn a darlun o Mrs. J. M. Saunders, a'i merch fechan serchog, Mair. Wrth wneyd liyn teimlwn nad oes galw o gwbl am i ni gyfìwyno Mrs. Saunders í'n darllenwyr. Pwy o honynt nad ydynt yn gwerth- fawrogi ei chyfraniadau prydferth at gynwys ' Y Gymraes'? Pwy hefyd yn Nghymru heddyw sydd heb wybod ei hanes a mwynhau mewn rhyw gylchgrawn neu arall ffrwyth h'yfryd ei hathrylith. À phwy, erbyn Jiyn, na wyr am ei dawn swynol ar y llwyfan, a'r gwaith lawer a wna yno o blaid bÿwyd sanctaidd, ac ymdrechion cenhadol gartref, ac oddicartref ? Nid yw Mrs. Saunders, mewn ysgrif nâ gweithred, yn foddlon i lafurio yn unig yn heolyddd ac ystrydoedd y ddinas, eithr â allan i'r prif ffyrdd a'r caeau, ac amlwg yw mai ar arch y Brenin y gwna