Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XIII.] HYDREF, 1909. [RHIF 157. ANERCHIAD LADY ROBERTS. Llywyddes Undeb Dirwesiol Merched Gogledd Cymrn. at aelodau yr uxdeb Anwyl Gydweithwyr,---- Gan y bydd yr amser yn brinach nag arfer yn ein Cyfarfod Blynyddol eleni, fe drefnwyd i mi yrí lle rhoddi Anerchia'd yn y Cynghor, i anfon y Cyfarchiad h\vn at Arweinwyr ac Aelodau yr Undeb trwy gyfrwng y Gymraes. Cawn felly fwy o amser yn y Cyngor i drafod materion sydd yn galw am sylw. Hyfryd genyf gael eich anerch fel hyn ar ddechreu tymor newydd. Hyderaf y bydd y Tymor yn un o weithgarwch a zel gynyddol yn ein holl Ganghenau, ac y gwna ein Cymdeithas fwy o gynydd nag erioed yn y flwyddyn newydd hon. Gadewch i ni ymdrechu i ddyblu ein haelodaeth y flwyddyn hon, ac i ddod felly yn allu llywodraethol yn mywyd ein gwlad. Pe penderfynai pob aelod enill un aelod newydd' yn ystod y flwyddyn, gallem gyflawni y gwaith, a myned ymhell tuag at gyraedd nod yr' Undeb o enill pob benyw yn Ngogledd Cymru i ochr llwyrymataliad. Awgrymwyd i mi y gallai fod yn gynorthwyol i'r Canghenau pe y cyfeiriwn, yn y llythyr hwn, at ychydig o fanylion ynglyn a*r gwaith sydd o dan eu gofal. Yr ydym, fel Pwyllgor, wedi sylwi gyda dyddordeb ar gynydd yn nifer'y Cyfarfodydd Mamau, Cyfarfodydd Dorcas, a'r Cyfar- íodydd Gwnio a gynhelir ynglyn a'n Canghenau. Mae amlhad y mathau hyn o Gyfarfodydd yn brawf o ymdrech i gynorthwyo y chwiorydd gwanaf, a gallant fod yn foddion rhagorol i ychwanegu at effeithiolrwydd gwaith y Gangen. Eto *meddyliaf. fod peth perygl i'n gweithwyr mewn ambell fan roddi gormod o sylw i'r math yma o gyfarfódydd, ac esgeuluso rhoddi addysg ddirwestol. Os defnyddir "y cyfa'rfodydd hyn i ddwyn merched ynghyd i'w haddysgu yn agored yn egwyddorion llwyrymwrthodiad, purdeb, a bywyd sanctaidd, y maent yn gwneyd gwaith y Gangen; ond os na wneir dim yn y cyfarfodydd ond gwnio ac ymddiddan, ac os yw y rhai hyn yr unig gyfarfodydd gynhelir gan y Gangen, teimlaf fod gwaith gwirioneddol y Gangen, sef lledaenu egwyddorion Sobr- wydd a Phurdeb, yn câel ei esgeuluso. Credaf fod y cyfarfodydd hyn yn gwneyd gwaith rhagorol pan y cant eu cario ymlaen yn iawn, obìegid yn aml dygant o dan dd'ylanwad y Gangen ferchçd nad aent byth i gyfarfod arall; ond fy argyhoeddiad yw y dylid mewn pob cvfarfodvdd o'r fath roddi Anerchiàd, neu Ddaflleniad o /lyfr.da, ar Grefydd, Sobrwydd, neu Burdeb, y dylid rhoddi gwa- "hoddiad i arwyddo yr ardystiad, a gwneyd yn eglur i'r rhai fydd