Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XIII.] MEDI, 1909. [RHIF 156. Mrs- Martha Ellís, Caerati, Líeyn. Darlun yw yr uchod o hen fam yn Israel, Mrs. Martha Ellis, priod y diweddar John Ellis, Caerau, Lleyn. Ganwyd hi yn Ty'n- simdde, Llaniestyn, Mehefin 29, 1829, ac felly y mae wedi cyraedd ei phedwar ugain mlwydd oed. Mae yn hanu o hen deuluoedd ag y mae iddynt hanes yn Lleyn. Ei thad oedd Evan Williams, Ty'n- simdde, Pencefn, a Phwllheli ar ol hyny, a'i mam yn ferch Taly- sarn, Llandegwning. Bu iddi lawer o blant, ac y mae naw o honynt yn fyw. Mae ei lletygarwch a'i sirioldeb yn wybyddus i weinidogion y Gair a charedigion crefydd ar hyd y blynyddoedd. Y mae achos crefydd yn nghapel Garn Fadryn yn gwybod yn dda am ei haelioni at bob achos da. Pan amlygodd ardalwyr y Greigwen •eu hawydd am gael capel rhoddodd dir iddynt i adeiladu, a chyfran- odd yn helaeth mewn arian. Anrhegodd yr eglwys hefyd a set o lestri cymundeb hardd. Gosodwyd careg sylfaen y capel ganddi hi, ac y mae y llwyar (trowel) gyflwynwyd iddi ar yr achlysur i'w weled yn ei llaw. Nawnddydd tawel fyddo iddi, a bydded i lawer ddilyn ei hesiampl ■mewn ffyddlondeb a sel gyda chrefydd.