Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XIII.] MAI, 1909. ÍRHIF 152. Mrs. Príchard (Btiddug), Caergybí. Mae Cymru yn cwyno heddyw ar ol un o wragedd mwyaf rhagor- ol ein gwlad,—gwraig yn berchen talentau disglaer, meddwl di- wylliedig, a chymeriad lawn a phrydferth. Yn yr ysgrif hon •dyfynir o erthygl alluog gan Mr. R. Mon Williams, ymddangos- odd yn Y Gymraes am Medi, 1897. Un o ferched " Môn, Mam Cymru," oedd Buddug. Ganwyd hi yn Llanrhyddlad, Gorphenaf 4ydd, 1842. O du ei thad, yr henaf- îaethydd clodfawr Mr. Robert Ap Ioan Prys (Gweirydd Ap Rhys, 1849), hana yn syth o gyff cenedl un o Bymtheg Llwyth Gwynedd.