Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XIII.] CHWEFROR, 1909. [RHIF 149. Cymieíthas y Merched Ieuaínc (Girls' Guild), Pwllheíí. Rhoddir pwys mawr y blynyddoedd hyn ar Gymdeithasau y Merched Ieuainc. Prin y mae cymdeithas bwysicach yn bodoli. Dyma wragedd a mamau y dyfodol; o daneu gofal hwy y bydd íielwydydd anwyl Cymru. Òs gallwn gael ein merched ieuainc yn rhinweddol, pur eu moesau, a chrefydd Crist wedi cyffwrdd eu calon, gallwn ddisgwyl i Gymru y dyfodol fod yn wir yn Gymru lân. Yn mis Chwefror, 1907, sefydlwyd Cangen o> Gymdeithas y Merched Ieuainc (Girl's Guild), 0 dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion Pwllheli. Etholwyd Mrs. R. O. Jones, Hall Place, yn Llywyddes; Is-Lywyddes, Mrs. Anthony, Maeres y dref; Ysgrifenyddesau, Mrs. Seaborne Davies, a Mrs. D. E. Davies; Trysoryddes, Mrs. Morgan Evans, Arlunfa. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o'r tymor Hydref 23, 1907, yn Bodawen, Cardiff Road; ac ar ddiwedd y tymor, ar ddymuniad Mr. Morgan Evans, priod y Drysoryddes am y fiwyddyn, daeth nifer dda o'r aelodau ynghyd er mwyn cael darlun o'r swyddog- ion a'r aelodau cyntaf', i'w roddi i fyny yn ystafell y Merched Ieuainc. Cymerwyd y darlun yn ffrynt Capel Penmount. Diolchwyd yn wresog i Mr. Evans am ei garedigrwydd i'r Gym- deithas. Erbyn diwedd y flwyddyn 1908 yr oedd y Gymdeithas wedi lliosogi yn fawr. Y swyddogion am y flwyddyn 1909 yw y rhai canlynol:—Llywyddes, Mrs. Morgan Evans (B.); Is- lywyddes, Mrs. Lewis (W.), Llys Myfyr; Ysgrifenyddesau, Miss Ellis (A.), High Street, a Mrs. D. E. Davies (M.C.); Trysorydd- es, Miss Hughes, Ala Road (M.C.). Cynhelir y cyfarfodydd bob wythnos am 7 o'r gloch nos Fer- cher, yn ' vestry-room ' Ala Road. Fe dreulir dwy awr mewn modd buddiol iawn. Ceir gweled bron yr oll o'r merched a'u gwaith gyda hwy. Yn ystod y cyfarfod ceir caneuon ac adrodd- îadau gan rai o'r aelodau ieuainc, ac anogaethau a chynghorion gan eraill. Mae nìfer dda iawn o chwiorydd o'r gwahanol eg- lwysi wedi ymuno fel aelodau anrhydeddus, ac y maent yn awyddus iawn am wneyd pobpeth yn eu gallu i gynorthwyo y Merched Ieuainc.