Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XIV.] RHAGFYR, 1910. [RHIF 171. Bara ar y Dyíroedd. GA.M ELFED. Bwrw dy fara, O ! ddyn Ar wyneb y dyfroedd llwydion, Rhag i ti gael dy hun Heb ddim i borthi'r tlodion. Os pleser heddyw brinheir, Bydd dy yforu yn llawnach : Gobaith deufyd a geir, Wrth wneud un byd yn llonach. Cred y dyfodol drud, A chred yr haf sy o'r golwg Mae Duw yn y pellder mud, I ddwyn y goreu i'r amlwg. Onid yw'r byd o hyd Yn fyr o fara beunyddiol ? Gwell bod yn hael mewn pryd, Nag in' golledu'r dyfodol. Bwrw dy fara, O ! ddyn Ar wyneb llydan y dyfroedd, Rhag mai newynu dy hun A wnei di—yn oes oesoedd !