Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XIV.] • HYDREF, VJ10. [RHIF 169. Miss Jones, Royal Infirmary, LiverpooJ. Llawenydd i bob Cymraes wladgarol yw dyrchafiad Miss Jones i swydd dan y Llywodraeth. Penodwyd hi Gorphenaf y fìwyddyn lion i fod yn Brif-Arolyges Ysbytai i'-r Tlodion trwy Gymru. Merch ydyw Miss Jones i'r diweddar Henadur É. T. Jones, U.H., Denbig"h. *Llanwodd Mr. Jones swyddau pwysig yn ei ■dref, a bu ddwywaith yn faer y ddinas. Cafodd ei ferch addysg ■dda, ac ar ol gorphen hyny, bu am ychydig' yn glerc i'w thad. Yr oedd ei fusnes yn eang- a'i weithgarwch crefyddol yn amrywiol. Arferai Miss Jones deithio gyda'i thad i'r gwahanol g-yfarfodyùd yma a thraw, a chanlyniad hyn oedd, ei bod yn fyw i symudiadau crefyddol, dÿngarol,'ac addysgol yn ei sir, yn y rhai y eymerai «ddyddordeb mawr. Yr oedd. Miss Jones yn naturiol o feddwl bywiog, a thuedd gref