Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•■• . A- ' ".--... _• - , Y Gymraes. CYF. XIV.] MEDI, 1010. [RHIF 168. Llythyr y Frenhines Alexanüra at y Gencdl. <(Bu y Brenin Edward VII. farw Mai 6ed, 1910, ac anfonodd y Frenhines Alexandra y llythyr canlynol at y Genedl. Ystyrir y îíythyr yn drysor gwerth ei gadw, am ei fod yn ddangosiad o ysbryd crefyddol un fu yn Frenhines ar orsedd benaf y byd). O waelod fy nghalon doredig,-dymunaf fynegu i'r holl Genedl, a'n Pobl garedig a garwn mor fawr, fy niolchgarwch mwyaf dwfn am eu cydymdeimlad teimladwy a mi yn fy ngofid lleth<Éi a'm jgalar anhraethadwy. Nid myfi yn unig sydd yn fy ngholled o;m hanwyl briod, ond y mae y Genedl hefyd wedi cael colled anadferadwy, trwy i'w cyfaill goreu, eu tad, a'u penadur, gael ei alw ymaith yn sydyn.