Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymracs. CYF. XIV.] AWST, 1'J10. [RHIF 167. Gymdcithas y Blodyn Gwyn, Goiwyn Bay. Dyma ddarlun o Gymdeithas y Blodyn Gwyn (Snoivdrop Band) •Colwyn Bay. Drwg genym i rai o'r aelodau fethu bod yn bres- «enol ar y pryd. Cyehwynwyd y gangen hon dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y Merched, Mawrth 26, 1909. Ymunodd 32 y noswaith gyntaf; erbyn hyn rhifant 51. Y swyddogion ydynt:—Llywyddes, Mrs. T. M. jones (eistedda yn y eanoì); Ysgrifenyddes, Miss A. C "Williams (ar y dde i'r darlun o fewn un i'r pen); Trysoryddes, Miss Millic Roberts (o fewn un i*r pen ar y ehwith; a'r agosaf íiti hi yw Mrs. Berth Jones, Llywyddes Cangen Ddirwestol y Merched yn y dref. Cyflwyna Mrs. T. M. Jones pot o snowdrop. hulbs i bob un fydd yn ymuno, ac yn ddiweddar cafwyd nosWaith i'r oll o'r aelodau i ddangos y blodau, pryd yr anerchwyd y rgenethod ieuainc gan dri o weinidogion o'r dref. Fël y mae yn hvsbys, prif amcan Cymdeithas y Blodyn Gwyn yw meithrin purdeb ymhob flfurf arno. Un o gwynion Cymru ydyw ein bod yn colli yr ieuenctyd ar ol iddynt fyned yn rhy oedranus i gyfar- fodydd y plant, ac y mae y Snoiüdrop Band yn llanw y bwlch hwn —yn fath o ddolen-gydiol rhwng y Band of Hope a Chymdeithas Ddirwestol y Merched. Llwyddiant i Gymdeithas Blodau Gwyn- lon Colwyn Bay. Prydferth iawn ac atdyniadol fyddont fel y lle.