Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF.XIV.] IONAWR, 1010. [RHIF 160. Cyfarchíad Dcchieti Blwyddyn. Gan Cranogwen. Anwyl Chwiorydd Ogledd a De, Ar ddechreu Blwyddyn/'Ced- wch ar y Dde," Nac ofnwch ei wneyd, hon yw yr iawn, Mae'r un ar y chwith o frad yn llawn ; u Cedwch ar y Dde," chwior- ydd bob un, At Dduw, a'i Grist, a'i nef- oedd gun, Ei Dv, ei Bobl, ei Ddvdd a'i Waith, A ddylent i gyd fod yn lan a digraith, A mawr fydd eich gwobr ar ben y daith. " Cedwch ar y Dde," yn wrol fron, Ar ddechreu y íìwyddyn nod- edig hon, A gwelwch flagur meillion ar daen, Yn arogl fod harddwch a bri ymíaen ! Ffordd yma, ar y Dde mae'r Iesu i ddod, Cawn felly ei weled, a rhoi iddo glod, Mae'n haeddu ei gael, Efe bia'r byd, Fe'i prynodd ar groesbren mor ddrud, mor ddrud! Ffordd yma mae'n dod, clywch swn y plant, A'i enw E'n adsain mewn peraidd dant; Clywch yr Hosanna, mae'r dyrfa yn gref, A'igmoliant.yn cyrhaedd i uchder nëf ! " Cedwch ar y Dde," a deuwch i gyd I gyfarfod Brenin y nef a'r byd ; I Salem. boed sicr, yno mae'r wyl, A'r teulu'n ymgasglu mewn hyfryd hwyl.