Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes- CYF. XII.] RHAGFYU, 1908. [RHIF 147. Preseb Bethlehem- GAN CENIN. Awn i gyd i Palestina, Awn 1 wlad Judea dlos, Gwylio'r defaid mae'r bugeiliaid Yn nistawrwydd dwfn y nos ; Angel mewn gogoniant disglaer, A thangnefedd yn ei drem, Sy'n cyhoeddi geni Ceidwad Draw yn mhreseb Bethlehem. Awn yn nghwmni'r mwyn fugeilíaid Gyda gwylder at y fan, A gyhoeddwyd gan yr angel I gael gwel'd y baban gwan, Sydd yn gorwedd mewn cadachau Yn y preseb gwael ei drem ; Syllwn gyda Mair a Joseph Goruwch preseb Bethlehem. O ! ddirgelwch uwch pob deall Duw'n ymddangos yn y cnawd, Ond trwy y dirgelwch dwyfol Y daeth Iesu Grist yn Frawd, Brawd i'r unig,—a'r amddifad,— A'r pechadur gwael ei drem, Brawd a Cheidwad i'r colledig Ddaeth i breseb Bethlehem. Daeth i barthau isa'r ddaear, A dibrisiodd Ef ei hnn, JMynych soniai am yr amser Y traddodid Mab y Dyn ; Ar y croesbren garw'n marw, Gerllaw pyrth Jerusalem, Mae yr Un dihalog hwnw Fu yn mhreseb Bethlehem. Draw mi welaf Ddydd y Dyddiau, Dydd y Farn ofnadwy yw, Dydd digpfaint yr annuwiol, Dydd llawenydd meibion Duw ; Ar gymylau'r nef daw'r Barnwr, Pob awdurdod yn Ei drem, Brenin nef a daear ydyw'r Hwn fu'n mhreseb Bethlehem.