Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XII.] HYDREF, 1908. ÍRHIF 145. Mrs. Prys, Penllwyn. Darlun yw yr uchod o weddw y di- weddar Mr. Absalom Prys, Factory, Penllwyn, a mam y Prifathraw Prys, Aberystwyth. Merch ydoedd i John a Margaret Sylvanus Williams, Ty'n- llidiart, yr ieuengaf o'r tair merch yn y teulu oeddynt i gyd yn saith mewn nifer. Ganwyd hi Medi, 1816. Gôf oedd ei thad wrth ei alwedigaeth, ac yn grefftwr medrus, yn llenor gwych, ac yn ddarllenwr mawr yn ei ddydd, ar gyfnodolion yr adeg hono, ac ato ef y cyrchid am oleuni ac arweiniad gan bobl yr ardal, a'r ardaloedd cylchynol, ymhob rhyw anhawsder. Yr oedd ei mam hefyd yn gymeriad adnabyddus ìawn, a chymerodd ran amlwg a blaenllaw yn nghychwyniad yr achos Metlîodistaidd yn Mhenllwyn. Byddai yn fynych iawn yn " codi canu " yn y cyfarfodydd, ac ni phryderid cymaint am lwydd- iant cyfarfod os byddai hi yno. Pan oedd ein gwrthddrych tua 3oain oed ymbriododd ag Absalom Prys o'r Factory, un oedd yn arweinydd y gân yn Pen- llwyn, ac a ddaeth wedi hyny yn fiaenor bywiog, parod, a ffydd- lawn i bob gwaith yn yr eglwys. Cychwynodd y ddau eu bywyd ar ol priodi yn Aberaeron, a buont yno o 3 i 4 blynedd, ac yr oedd ganddynt ill dau adgofion melus iawn am y tymor byr dreuliwyd yno. Ffurfiwyd ganddynt gyfeillgarwch ag amryw o'r hen frodorion nad anghofiwyd ganddynt hyd eu bedd. Agor- odd rhagluniaeth ÿ ffordd iddynt yn fuan ddychwelyd i'w hardal enedigol, i gymeryd i fyny y fusnes yn Maesbangor Factory, ar ol marwolaeth mam Absalom Prys. Ÿma y ganwyd iddynt yr oll o'r teulu ag sydd yn awr yn fyw: tri mab ac un ferch, ac hwyrach mai gwaitrí mawr bywyd Mrs. Prys oedd dwyn y teulu bychan hwn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr otàà yn ddirwestẃraig selog, a dygasaht eu plant i fyny yn llwyr- ymwrthodwyr. Ar yr aelwyd gartref y bu ei dylanwad a'i gwaith hi amlycaf.; cynghorai Paul gynt pan yn hen wr y gwragedd ieuainc^yn yr eglwysi "'i garu eu gwŷr a charu eu plant, a bod yn sobr, yn bur, ac yn gwarchod gartref yn dda." Ac ni fu neb yn fwy ffyddlon i wrando a chario allan gynghor yr apostol na'r fam hoií, i warchod gartref yn dda. Nidl rhyw lawer wnai hi gyda'r achos yn gyhoeddus, gadawai hyny i'w phriod. Ei hyfrydwch penaf'oedd gwasanaethu ar eraill o'r rhai agosaf