Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XII.] MAI, 1908: ÍRHIF 140. SANATORIUM YN SIR FON. Sef Ty Gwella i .Ferched C'laf o'b Darfodedigaeth. (Open-air Hotne for Consumptive Women). Adeiladwyd Tŷ Gwella Penhesgyn-y-gors gan Miss Davies, Tre- borth, Bangor, ac o helaethrwydd ei chydymdeimlad hi y cynhelir ef. Ymwelodd Miss Davies a rhai o'r Sefydliadau goreu o'r math yma, i'r amcan o gael gwybodaeth am ffurf yr adeiladau a'r dull mwyaf llwyddianus o gario y gwaith ymlaen. Ffrwyth yr ym- chwiliad yna yw Tŷ Gwella Penhesgyn. Er fod ei safle yn uchel, cysgodir ef yn dda rhag gwyntoedd oer y gogledd a'r dwyrain. Y mae yr awyr yn fywiocaol, ac nid oes ond ychydSg fìlldiroedd rhyngddo a gorsaf rheilffordd Menai Bridge. Y mae yn perthyn iddo, fel i bob sefydliad o'r fath, ei Reolau. -Wele rai o honynt: — Cleifion yn nghyfnod dechreuol yr afiechyd yn unig dderbynir. Rhaid i ymgeiswyr am dderbyniad i mewn lenwi i fyny y Gais-ddalen, ac anfon Tystysgrif Feddygol. Cymerir cleifion i mewn am dri mis, ond gellir hwyhau neu fyrhau yr amser, yn ol yr angen. . Y mae y cleifìon i dalu 5 swllt yr wythnos fan leiaf. Os bydd eu hamgylchiadau yn caniatau, disgwylir iddynt dalu mwy. Y mae pob achos i fyned ger bron Arolygydd Meddygol y Sefydl- îad,—Dr. Grey Edwards, Bank Place, Bangor. Ceir pob gwybodaeth yn nghylch dillad addas, amser derbyniad 1 mewn, &c, ond anfon at—The Sister-in-Charge, Penhesgyn-y- gors, Menai Bridge, Anglesea.