Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. ^CYF. XII.] EBRILL, 1908. [RHIF 139. ATAL Y DARFGDEDIGAETH. GAN MISS DAYIES, TREBORTH, BANGOR. Iaith angel bendigaid Gobaith ydyw yr iaith y llefara Gwyddon- iaeth ddiweddar wrthym ynddi am yr afiechyd creulawn hwn, sydd yn hoff o ddewis yn ysglyfaeth iddo, yr eneth dyner neu y bachgen, y fam ieuanc, neu y gwr- ar yr hwn y mae cynhaliaeth y teulu yn dibynu, a hyny yn nghanol ei ddvddiau. Dywed wrthym fod yr afiechyd yn un y gellir ei atal, am \ Pi TLii yglẄF, ac, oherwydd hyny, yn un y dylid, ymladd yn ei erbyn a'i ddifodi; a dywed yn mhellach fod yr arfau angenrheidiol tuag at frwydro yn lhw'ddianus yn y rhyfelgyrch yma yn gyfryw, fel mai Merched yw y rhai cymhwysaf i'w defnyddio. Erbyn hyn, mae y dirgelwch oedd ynglŷn â tharddiad y Darfod- edigaeth (Tuberculosis) wedi ei symud. Mae tarddiad cancer a gwallgofrwydd yn aros hyd yn hyn yn ddirgelwch, ond y mae Gwyddoniaeth wedi gosod ei llaw ar yr hedyn (bacillus) marwol -sydd yn achosi y Darfodedigaeth; mae wedi ei dynu allan o'i guddfan yn nghelloedd (tissues) corff dyn ac anifail, ac wedi dangos yn eglur pa fodd y gellir ymladd ag ef a'i ddinystrio. Yn y lle cyntaf,—Pa fodd y mae yr hedyn (bacillus) yn enill ei ffordd i'r corff dynol? Mae barn y meddygon yn cyfeirio at ddwy ffordd. Yn gyntaf; daw oddiwrth gig a llaeth gwartheg sydd yn llawn o elfenau darfodedigaeth (tuberculous cattle). Dylai y cyhoedd fynu fod y trefniadau sydd mewn bod gyda golwg ar archwiliad y cig a werthir, yn cael eu cario allan yn fanwl. Ond; mae hyn i'w ddweyd : gan mai wedi ei gog^nio v bwyteir cig, y mae yn ffynonell lai peryglus na llaefTî i ledaenu yr afìechyd. Llaeth afìach yn ddiamheuol yw yr achos, ymhob amgylchiad o'r bron, o ddarfodedigaeth mewn plant ieuainc. Dylai mamau, gan hyny, fod yn fyw iawn i sicrhau dedd'fau priodol ynglŷn â gwneyd ar- ehwiliad iechydol ar laethdai, ac ar y gwartheg sydd yn y llaethdai. Ond, yn y cyfamser, mae ganddynt feddyginiaeth wrth law. Os "bydd yr amheuaeth leiaf nad yw y llaethdai y daw y llaeth o honynt yn rhai perffaith lân, ac iachus, yna berwer y llaeth cyn ei ddefn- yddio. Mae hyn yn lladd. yr hadau (germs) sydd yr^ achosi y