Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XII.] CHWEFROR, 1908. ÍRHIF 137. Llan, Carrog. Wele ddarlun o gartref, da a diddan arall, cartref sydd yn g"wasgar bendithion o'i amgylch. Llety fforddolion yn wir yw, fel llu o rai tebyg iddo yn ein gwlad dda, ac mae'n amlwg i bawb yr ystyria y teulu ystafeli y proffwyd mor anhebgorol a'u hystaf-ell- oedd eu hunain. Mae tad a mam a merch yn llywio yn hapus yn y cartref hwn eto, tra y mae aelodau eraill mewn manau eraill yn gwneyd car- trefi ar yr un plan da. Gorwedda un aelod cu yn naear gynes Deheubarth Affrica, wedi syrthio yno pan yn gwneyd rhan meddyg tyner i'r clwyfedigion ar faes y rhyfel diweddar. Bydd yn cyfarfod ei dad a'i fam, ei frodyr a'i chwiorydd, yn y cartref g^welí fyth ddydd a ddaw. Yn mis Tachwedd, fel y cyfeiriwyd eisoes yn ein cylchgrawn hwn, fe gynhaliodd y Chwiorydd Dirwestol Gynhadledd fechan yn Carrog trwy drefniad caredig Miss Parry a'i chynorthwywyr parod. Cynhadledd ragorol oedd, a naws hyfryd iawn ar bob peth ynddi. Yr oedd ymwelwyr o Corwen, Birmingham, Bryn- eglwys, Glyndyfrdwy, Gwyddelwern, Llandrillo, ymysg y gwa- hoddedigion. Cyflwynwyd i un o honynt fasgedaid hardd o flodau gyda chlwm helaeth o Ruban Gwyn yn eu cylymu mor gain a phe buasent wedi eu trefnu gan oreugwyr celf yn Lerpwl neu Lundain. Parotowyd ar gyfer y dieithriaid yn ardderchog yn Llan, ac yr oedd Mrs. Parry—sydd wedi cael llawer mwy o ddyddiau nag a addawodd y Salmydd—mor siriol, mor serchog, a bron mor sionc a neb oedd yno. Hir y parhao nawdd a bendith y nefoedd ar y Llan a'i deulu gwerthfawr.