Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XII. IONAWR, 1908. RHIF 136. Trefoorth. Dÿma eto ddarlun o un o gartrefi ardderehocaf Cymru. Llawen genym ei gyflwyno i'n darllenydd. Cartref fel y mae yn hysbys îddynt, yw i weddw a theulu y diweddar Richard Davies, Ysw., A.S., ac Uchel Sirydd Mon. Gwyr pawb yn ddiau mai merch i " Henry Rees " yw Mrs. Daries, a gwyr y rhai sydd yn ei had- nabod ei bod wedi etifeddu llawer o rinweddau y gwr mawr hwnw yr oedd Cymru wedi ei "seintio" hyd yn nod tra yr oedd yn rhodio ei daear. Nid rhyfedd fod gwaith ac achos Iesu Grist yn ei holl agweddau yn rhan o ofal haeifrydig Mrs. Davies.a'i theulu bob amser', ac y ceir yn Treborth gefn cryf i achosion Dirwestol, crefyddol a chenhadol. Cymerir dyddordeb arbenig yno yn y sefydliad daionus hwnw, Cymdeithas Gristionogol y Merched leuainc, a chynhaliwyd beth amser yn ol Gyfarfod pwysig yno i hyrwyddo gwaith y Gymdeithas yn Nghymru. Yn y Neuadd Ddirwestol hardd a chyfleus sydd yn rhan o gymwynasgarwch y teulu i Porthaethwy, darperir yn ardderchog gan Miss Davies ar gyfer Merched Ieuainc yr ardal, a gofelir yr un mor hyfryd am y Bechgyn bach gan ei chwaer. Gwyr llawer hefyd am wasanaeth Miss Davies gyda'r Achos Cenhadol ac am ei hymweliad a'r Maes Cenhadol ar Fryniau Khassia, ac hefyd am y gwaith newydd a phwysig y mae wedi ei dori allan iddi ei hun trwy adeiladu, ar ei