Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XI. RHAGFYR, 1907. RHIF 135. Ty Dírwestol Abergele. Llawen iawn genym gyflwyno gydag araeth lywyddol Mrs. J. Her- bert Roberts, ddarlun o'r CafeDirwestol hardd y mae ei phriod a'r teulu wedi anrhegu Abergele ag ef. Saíf ar le yr oedd tafarn o'r blaen, ac y mae yn werthfawr dros ben i'r dref ac i ymwelwyr. Mae ynddo barlwr hardd ar gyfer Cyfarfodydd y Merched Ieuainc, yn gystal ag Ystafelloedd Cyfarfod, Bwyd, ac Ädloniant i bobl o bob oed. Pa bryd y dilynir esiampl ddyngarol Mr. Roberts, A.S., Mr. D. Davies, A.S., Mr. David Hughes, a Lady Reade gan ychwaneg o gyfoeth- ogion Cymru. Anerchíad gan Mrs. Hcrbert Roberts, Abergele- .(Llywyddes Undeb Dùwestol Metched Gogledd Cymru. Traddodwydyn Nghyfar- fod Blynyddolyr Undeb yn Nghapel Princes Road, Lwerpool, Hydref \^fed, 1907. Anwyl Gydweithwyr,—• Nid wyf yn bwriadu i Anerchiad y Llywyddes y prydnawn vma i gymeryd mwy nag ychydig funudau, oherwyddy mae genym lawer o waith pwysig i fyned drwyddo, a thri o faterion dyddorol i'w trafod. Ond rhaid i mi roddi gair o groesaw i chwi.