Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XI. TACHWEDD, 1907. RHIF 134. . Addysg Genethod Cymru. Dyledswydd benaf gwlad yw addysgu y plant. Wrth edrych o un •cyfeiriad, y mae addysg geneth yn ymddangos yn fwy pwysig nag addysg bachgen. Dibyna gwlad lawer, yn foesol, a chymdeithasol, a chrefyddol, ar ddylanwad y cartref. Byddcartrefi Cymru dan ofaí y genethod sydd yn awr yn yr ysgolion dyddiol, a chan mai yn nghartrefi cyffredin Cymru y megir y genedl, dylai pob geneth drwy. Gymru gael addysg drwyadl dda a phriodol, pwy bynag yw, a pha fath bynag yw ei chartref. Ar lawer o ystyriaethau, y mae Addysg yn Nghymru wedi cyrhaedd tir uchel, ond nid yw yn berffaith, a'r genethod sydd yn teimlo fwyaf oddiwrth yr amherffeithrwydd. Pa bethau ddylai Addysg geneth ei gynwys ? A ddylai ganlyn ar yr un llinellau a'r bechgyn ? Hyd yn hyn, yn ein Hysgolion Elfenol Cyhoeddus Cymysg, y mae y bechgyn a'r genethod yn cael yr un gwersi yn hollol, gyd a'r eithriad o wniadwaith, ryw ddwywaith fel rheol yn yr wythnos i'r genethod. Dengys hyn y fath anfantais yw i'r eneth, nad yw yn cael ysgol ond am amser byr. Y mae mwyafrif mawr genethod Cymry yn gadael yr Ysgolion Elfenol pan tua 13 a 14 oed, ac ni welant ysgol mwy. Y mae gan y rhai hyn hawliau ■arbenig ar arian y cyhoedd. Yn un peth, am mai hwy yw y dosbarth lluosocaf o lawer, ac mai hwy fydd gwragedd gweithwyr, amaethwyr, -a masnachwyr Cymru. Dylent gan hyny gael y fantais benaf oddi- wrth addysg a sicrheir ar draul y cyhoedd. Dylai pob geneth 012 oed ac i fyny yn ein Hysgolion Elfenol fod . o dan ofal athrawes drwydde.dig, ac un yn meddu breinteb yn y pyngciau teuluaidd—Coginiaeth, Golchi, Deddfau Iechyd. Mae amryw resymau dros hyn : — (a) Gall yr athrawes roddi sylw dyladwy i iechyd geneth—peth anmhriodol iawn i athraw wneyd. (b) Gall ddysgu iddi arferion, mewn gwisgo, mewn destlusrwydd, dull o eistedd yn weddaidd, ymddygiad da, a chyfeirio sylw y genethod ati ei hun fel esiampl o'r hyn gynghora. Nid yw yr athraw mor fanwl ei lygaid am y pethau uchod ag yw yr . athrawes. (c) Gall gario ymlaen ymddiddanion gyda'r genethod ynghylch lliaws o fan bethau pwysig i eneth roddi sylw i.ddynt a'u i. gwybod. Ymddiddan fel chwaer a hwynt, a myned i'w cyfrin- .- achau. , Trwy hyn gall ragflaenu profedigaeth ^ lawer geneth ddifeddwl, ac i enethod nad oes neb yn eu rhybuddio a'u cynghori. Ond ni àll geneth ddweyd ei chyfrinachau wrth athraw.