Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XI. MEDI, 1907. RHIF 132 Dosbarth o Ysgol Sabbothoí Rochdaíe MAE yr athrawes serchog a thalentog yn adnabyddus i lawer o ddarllenwyr Y Gymraes, oheiwydd y mae Mrs. Humphreys wedi bod yn sefyll gerbron cynulliadau mawrion i anerch o blaid Dirwest. Ci i llawer un yw fod gan ferched ddigon o waith gartref. Fel rheol, y mae y rhai sydd yn siarad yn gyhoeddus }mglyn â Dirwest ac yn aelodau o Undeb Dirwestol Merched y Gogledd, neu y De, yn weithwyr ffyddlon hefyd yn eu cartrefì a'u heglwysi. Un o'r rhai diwyd hyny yw Mrs. Humphreys, Rochdale. Yn y darlun ceir deunaw o chwiorydd. Lluddiwyd dwy eraill oherwydd amgylchiadau i dd'od ynghyd y diwrnod y tynwyd ef. Nid yn unig y mae yr oll yn aelodau o'r Ysgol Sul, ond hefyd yn ddirwestwyr. Y mae yr Ysgol SabbothDl a Dirwest wedi bod law yn llaw ar hyd y blynyddoedd. Y mae perthynas agosach rhyng- ddynt á'r eglwys na bod yn ddwy law-forwyn iddi,—mae d'od at ein gilydd i ddarllen Gair Duw ac i gynorthwyo y naill a'r I3a.ll i'w ddeall mor bwysig a'r cyfarfod eglwysig a chyfarfodydd eraill sydd yn perthyn i'r eglwys. Y mae lìwyrymwrthodiad â'r diodydd meddwol hefyd, yn enwedig yn wyneb sefyllfa pethau y dyddiau hyn, yn un o ffrwythau yi Y'sbryd. Mae pob gwir Gristion, nid yn unig yn ceisio dilyn yr Arglwydd ei hunan, ond hefyd i fod yn esiampl i eraill trwy ymgadw rhag pob rhith drygioni. Hen arferiad dda oedd cael anerchiadau ar Ddirwest ar ddiwedd yr YTsgol Sul yn awr ac eilwaith, ac y mae yn sicr fod gwaith rhagorol yn cael ei wneyd mewn canlyniad i bregethau Dirwestol, &c. Ond credwn fod eisiau d'od yn nes at y bobl, ac nid oes un man yn fwy manteisiol i argraffu gwirioneddau yr efengyl ar feddyliau plant a pìiobl ieuainc, a phawb o ran hyny, nac yn y Dosbarth yn yr Ysgol Sul. Wrth gwrs, dylai pob athraw ac athrawes fod yn aelodau eglwysig ac yn l}wyr- ymwrthodwyr â'r diodydd meddwol. Unwaith y caiff gwirioneddau yr efengyl—y gwirionedd am Iesu Grist yn aberthu ei hun dros bechadur, ynghyd a gwirioneddau eraill, afael iawn ar galonau dynion, hawdd fydd eu perswadio i fod yn llwyrymwrthodwyr Maes rhagorol i aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Merched i weithio ynddo ydyw yr Ysgol Sabbothol. I ddechreu—trwy wneyd eu goreu i ddangos gwerth yr Ysgol Sul, a chael yr esgeuluswyr i roddi eu presenoldeb yriddi ; ac hefyd, hyfíorddi eu gil)dd \n yr Y'sgryth) rau Sanctaidd, a chymhwyso y gwirioneddau a ddarllenir at galonau y naìll a'r lla.ll. Y merched ieuainc sydd yn aelodau o'r Y'sgol Sul yn