Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XI. MAI, 1907. RHIF 128. - -'' ' wfsj H*l '-'<-■■" r-:. 'V £ •:'/ '"•" ;' ; £l. 'J S MISS MARY J. OWEN, TV DDEWI, DEHEUDIR CYMRU (Ysgrifenyddes rhinbarthy Díheuiir o Ih; Interna'ional Bible Reading A "sociationj. Cymdeithas Rhyngwladwríaethoí Darílen y Beifol. Ymysg y dylanwadau distaw hyrwyddol i oleuo y bobl mewn ystyr ysbrydol, gellir cyfrif y gymdeithas uchod, amcan yr hon yw symbylu darlleniad dyddorol o'r Beibl ymhob cartref. Nid oes dadl parthed pwysigrwydd y fath amcan, yr hwn a gydweithia a phob gweinidog, athraw yr Ysgol Sabbothol, a phob gweithiwr Cristionogol. Prawf ei llwyddiant yn barod, fod y gymdeithas yn llanw angen, ac yn hyrwyddo yn wirioneddol yr amcan mawr sydd ganddi mewn golwg. Wedi ei chychwyn yn 1882, y mae hon wedi cyflawni pum' mlyn- edd ar hugain o waith, gydag aelodaeth o ddim llai na 950,000, oddeutu 100,000 o'r cyfryw yn wasgaredig drwy yn agos i ddeg a thri ugain o wledydd, a'r gweddill yn ffurfio cangenau ynglyn ag Eglwysi, ac Ysgolion Sabbothol, yn ein gwlad ni. Prin y mae'n debygol y buasai y fath gynydd (s'ef ar gyfartaledd o un aelod am bob tri munyd ar ddeg drwy yr holl amser)—wedi ei wneyd oni bai am y ffaith ei bod wedi profi ei hun, yn ymarferol gynorthwyol, ac yn gyffredinol gymeradwy. Gwneir detholiad a darlleniadau dyddiol o'r Beibl yn awr yn gynllun lleol. Cymerir rhan neillduol o'r Ysgrythyr fel testyn