Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XI. EBRILL, 1907. RHIF 127. Míss Harríet Davíes, M-A., MD. GAN BUDDUG. " Nis gellir ymattal rhag gweithio dros Iesu Os treulir un funyd wrth ymyl ei fedd."—C. Peris. Wele i ddarllenwyr Y Gymraes ddarlun ö Gvmraes drwyadl o wlad y gorllewin, yr hon a ymadawodd i'r maes cenhadol Americanaidd yn India, ar y 23ain o Hydref, 1906, fel cenhades feddygöl. Deallwn ei bod, erbyn hyn, wedi cyraedd mewn diogelwch i ben ei thaith. Mae ei gwyneb yn y darlun, mor agored a llyfr, a gall y neb a fyno ei ddarllen. Magwyd hi gan deulu crefyddol, ac amlygodd awrydd cryf am addysg golegawl yn foreu. Ar ol chwilio allan pa faint a gostiai cwrs mewn coleg, rhoddodd ei thad gynygiad o fiaen ei ferch Harriet; naill ai graddio yn Ngholeg Ripon, neu gael 800 o ddoleri pan yn 2iain oed. Dewisodd hithau yr Ysgol. Dywedir fod ei thad yn financier gwych, ond methodd yn ei sum y tro hwn : oblegid fe gostiodd ysgol y ferçh yn fwy na dwbl yr hyn oedd wedi gyfrif. Talodd y cwbl yn siriol. " Ti a gei dy ddymuniad " meddai, " os caffywyd ac iechyd." Yn Mehefìn 1901 graddiodd Miss Davies yn