Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymraes. CYF. XI. MÂWRTH, 1907. RHIF 126. Ymdrechíon Dírwestol Merched Gogledd Cymrtí. Arwydd-air—Er mwyn Crist, Cartref a Chymydog. Arwydd-nod—Cwlwm o Ruban Gwyn. Yn wyneb y cwyno fod yfed cymedrol, ac anghymedrol, ar gynydd yn mysg merched Cymru, hyfryd yw cofnodi ffaith lawn calondid, sef fod nifer aelodau Undeb Dirwestol y Merched yn Ngogledd Cymru ar gynydd bob blwyddyn. Yn mysg y miloedd merched hyn, y mae y cymeriadau mwyaf pur, sanctaidd, ymroddedig a hunanymwadol. Hefyd. pynrychiolant dalentau mewn llenyddiaeth, barddoniaeth, can- iadaeth ac adroddiadaeth. Y mae gan olud hefyd ei gynrychiolwyr ẃ'-anwadal, ac ysgoleigdod ei raddedigion gostyngedig, ac unir yr oll yn rhwymyn cariad chwaeryddol c'r mwyaf tyner. Gallu mawr yw gallu merch, ac y mae gobaith Cymru yn y dyfodol i'w benderfynu i raddau pell gan burdeb, crefyddoldeb, a dylanwad rhinwçddol ei merched. Hyderu yr ydym y ceir gweled cyn hir bob merch feddylgar yn aelod o'r Undeb uchod. Y mae yr hon sydd yn caru ei Gwlad, yn caru ei Chenedl, ac yn caru ei Chrefydd, yn sicr o gael ei hargyhoeddi nad peth anrhydeddus yw boddloni ar fod yn bur, yn sobr, ac yn dda ein hunain, heb hefyd geisio rhai eraill i fod felly. Rhaid cyfaddef y clywir yn fynych v frawddeg—" pawb drosto ei hun : " na—" aelodau ydym i'n gilydd." Yr ydym i fod yn llaw i un i'w harwain, yn ysgwydd i un arall i ddwyn beichiau ein gi'lydd. Dad- leuai un gyfeilles yn selog iawn yn ddiweddar, mai ofer ceisio diwygio merched hoff o'r ddiod, am y rheswm mai merched diffygiol mewn synwyr oeddynt. " Pe yn gall," meddai, " buasent yn gweled eu bod yn drygu eu cymeriad, a chymdeithas barchus yn edrych i lawr arnynt. Buasai hynyna, heb son am ddim arall, yn ddigon i ddynes gall beidio cyffwrdd y ddiod. Rhaid fod synwyr hon a hon yn ddiffygiol iawn. Mae yn gobeithio fod ganddi grefydd am fod ei henw ar lyfr y capel. ond y mae ei holl gysur mewn sugno potel feddwol yn ddirgel yn y ty! 'Does dim ond gadael i'r merched disynwyr yma yfed eu hunain ymaith. " Ond," meddai, "y mae rhyw reswm yn eich gwaith yn cynghori y rhai ieuainc." Ar yr ystyriaeth yna y daeth y chwaer hon yn aelod. Dylid cofio o hyd fod yna alluoedd anweledig yn gweithio o blaid y rhai sydd yn ceisio y colledig. Dywedodd Dr. Campbell Morgan, fod Duw, a'i "Fab yn ystyried dyn colledig yn werth marw drosto. Y mae gobaith i'r gwaethaf, i'r truenusaf, ac i'r ffolaf, ac y mae Un mawr iawn wrth ei waith o hyd yn ceisio y colledig, ac yn eu cael. Dilyn- wn yr Iesu—" Efe a roddes i ni esiampl."