Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

U? ẅmraee. Cyf. VIII. AWST, 1904. Rhif 95 Mrs. Brynmor-Jones, ÌPrin y mae angen hysbysu mai darlun o briod Brynmor-Jones, Ysw., yr Aelod Seneddol adnabyddus dros ranbarth Aberdâr, yw yr uchod. Un o ferched prysur ein gwlad yw Mrs. Brynmor-Jones, ac fel y myriega Uinellau ei gwynebpryd, gwna ei gwaith gyda phenderfyniad, ac o dan arweiniad y pelydr sydd yn ei llygaid. Y mae ei thalentau yn amrywiol, ac nid eu cuddio a wna. Trwy addysg o'r fath oreu, galluogwyd hi i berffeithio ei doniau naturiol, ac i ychwanegu rhai eraill atynt, ac yn goron ar y cwbl, gwna ddefnydd helaeth o honynt er mwynhad a dyrchafìad eraill. Fel y gallesid disgwyl, y mae wedi meddianu yn helaeth ysbryd ;gwladgarol ei phriod galluog. Y mae yn llawn brwdfrydedd trrs