Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1? ẅmraeô* Cyf. VIII. MAI, 1904. Rhif 92 Mrs. J. Herbert Roberts, a'i Phlant Bach. Da genym gyflawni ein haddewid, a chyflwyno i ddarllenwyr y Gymraes ddarluniau o Mrs. Herbert Roberts, priod yr Aelod Seneddol poblogaidd, ac o'i phlant bach. Mae y darluniau yn rhai rhagorol, a rhydd un Mrs. Roberts fynegiad mor gywir a hapus o'i chymeriad, fel nad oes angen cynorthwy geiriau i allu- ogi ein darllenwyr i'w hadnabod, ac i ddeall i phoblogrwydd. Wríh son am ei chwaer, Mrs. Herbert-Lewis, yn rhifyn Mawrth, •dywedasom fod y ddwy vn aelodau ymroddgar o Undeb Dirwest- ol Merched Gogledd Cymru. Yn eu sel ddirwestol v mae v ddwy yn dilyn esiampl eu tad a'u mam—yr anrhydeddus \A:. S. Caine, Ysw., A.S., a Mrs. Caine. Gweithiwr dirwestol poblogaidd a phybyr oedd y diweddar Mr. Caine, ac v mae ei weithredoedd dyngarol A\edi anwylo ei goffadwriaeth yn y wlad hon, ac yn India. Y mae Mrs. Caine yn adnabyddus iawn ar y llwyfan dir- westol, a'i hymdrechion yn ddifhno. Yn Abergele a'r cylch, a Llundain, y mae Mrs. Roberts wedi rhoddi ei chynorthwy parod. Yn y gadair, neu yn anerch, y mae yn hollol gartrefol. Y mae ei manteision i hyn vn amrywiol— synwyr craff, addysg" o'r fath oreu, a stor o wybodaeth wedi ei gasglu trwy ddarílen a theithio, &c Nid yw yn siarad llawer mewn pwvllgorau, ond y mae yn sylwi llawer, a phob amser yn barod i gymeryd rhan yn ngwaith y cyfarfodydd. Sonia amryw ar ol Cymanfa Abergele (1903), am eu teimladau dwys dan weddi-