Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ìj? (Bçmraes* cyf. VIII. CHWEFROR, x9o4. Rhif 89. Tywysogcs Cymru Y mae urddas a chyfoeth y Dywysoges ddoeth a charedig hon yn ei dyrchafu i safle ag y mae yn anhawdd ond iychydigddilyn ei hesiampl. Ond wrth ddarllen ei hanes, y mae yn am'wg ei bod yn berchen rhin- weddau ag y gall bron bob mam eu hefelychu. Yn fyr, y mae yn credu y dylaí ei phlant gael cymaint ag a ellír o gwmni eu tad a'u mam. Y mae yn rhoddi gwersi ei hunan iddynt mewn caredigrwydd, geirwir- edd, &c, ac yn dysgu iddynt adnodau y Beibl. Y mae siarad am lesu Grist wrthynt fel eu cyfaiíl penaf. ac y dylent ddweyd pob peth wrtho, a pheidio ei ddigio un amser. Y mae yn eu dysgu i fod yn ofalus o'u Hyfrau a'u teganau, ac yn canmol yr awydd ynddynt am ranu eu teganau i gleifion a thlodion bychain. Y mae yn ei hymddyddan â hwynt yn adgoffa iddynt o hyd mai ei nheges hi a hwythau yn y byd yw gwneyd pobl eraill yn fwy hapus. Cawn helaethu eto.