Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

13 (Bçmraee* Cyf. IV. TACHWEDD, 1900. Rhif 50. MRS. ROBATHAM, TREGOLWYN, MORGANWG. GAN CRANOGWEN. Enw adnabyddus iawn yn Mro Morganwg, ac o fcwn llawer cylch y tu faes i hyny yn y Deheudir yma, ydyw eiddo ein chwaer uchod, Mrs. Robatham, Tregolwyn ; a galar a deimlwyd yn ehelaeth, pan ddaeth y newydd disymwth ei bod wedi ei galw oddiwrthym, i arall fyd i fyw. I'r nef yr aethai yn ddiau, nis gallai fod amheuaeth am hyny, ond yr oedd ei chwmni ar y ddaear mor ddymunol, fel nas gellid lai na chwyno a gofidio am fod ei lle, a lanwai mor dda, yn wag. Merch ydoedd Mrs. Robatham, i Mr. a-Mrs. Lewis, Tregolwyn, Morganwg, pobl i'r rhai yr oedd " gair da gan bawb, a chan y gwir- ionedd ei hun." Bu ein chwaer fyw yn o hir yn sengl, a hwnw yn