Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

îj? ẅmraee* Cyf. IV. MEDI, 1900. Rhif 48. MRS. W. J. PARRY, COETMOR HALL. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A-, LIYERPOOL. Nidl oeddym yn meddwl y buasai rhaid ysgrifeiiu ' y ddiweddar' ar ol enw Mrs. Parry, wrth ei chyflwyno i ddarllenwyr Y Gymraes. Ond dyna y ffaith ofidus erbyn hyn. Yr cedd amryw rinweddau yn addumo ranes y foneddiges hon, ac yn ddiau y mae y bywyd prydferth a dreul- iwyd ganddi yn teilyngu sylw. Y mae darllen hanes y rhai dreulias- ant eu bywydau i wasanaethu cymdeithas ac i ogoneddu Duw yn ys- brydiaeth barhaus i ni. Er wedi ìnarw^, parhant i lefaru wrth v bvd eto. Hanai Mrs. Parry o gyfí hen deulu enwog Helygog, Brithdir, yn Sir Feirionydd. Tirfeddianwyr cyfrifol ac aelodau o'r Eglwys Sefydledig ceddynt ei rhieni, ac yn yr un cyfundeb y dygw}rd hithau i fyny. Ond hyd yn nod y pryd hwnw arferai fynychu y cyfarfodydd a. gynhelid yn nghapel yr Annib)mwyr yn y Brithdir. Felly pau ymbriododd â Mr. W. J. Parrv, v pr\rd hwnw o Maesraroes, vr oedd vn g\nnharol hawdd ìddi ddilyn ei phriod, ac ymaelodi yn Bethlehem,—eglwA-s oedd ar y pryd o dán ofal )t enwog Stephen, Tanymarian, i'r hwn yr oedd gan Mrs. Parry y parch dyfnaf bob amser- Ymhen rhai blynyddau symudasant fel teulu i Goetmor Hall, Beth- esda, lle y treuliodd hi y gweddill o'i hoes, ac o ba le yr ehedodd ei hysbryd pur a charedig i wlad well Chwefror 17, 1900.