Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W ẅmraes* Cyf. IV. GORPHENAF, 1900. Rhif 46. MISS THOMAS B.Á., (LOND.), PrIFATHRAWES YSfiOL ÜR. WlLLIAMS, DoLGF.LLAU. YCHYDIG O HANES YSGOL DR. WILLIAMS. Ni fydd i neb sydd erioed wedi gweled Ysgol Dr. Williams yn Nolgellau ryfeddu am foment fod pobl y dref hono mor falch ag y maent o'r sefydliad enwog hwn. Ychydig iawn yw yr ysgolion sydd yn meddu ar amgylchoedd mor dlws a hyfryd, a dedwydd yn wir yw y merched sydd yn byw yn nghanol y fath brydferthwch, i fywydau y rhai y mae yn rhaid fod peth o'r prydferthwch yn cael mynedfa. Y mae hanes cychwyniad yr ysgol yn hysbys ddigon, a phrin, ni gredwn, y ceir yn holl hanes Addysg Cymreig adröddiad mwy dyddorol na'r