Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 45 CADAIR GEEDDOEOL ABERYSTWYTH. Nid ydym yn meddwl fod neb ag sydd yn caru ei wlad ag nad ydyw yn llawenychu wrth weled Coleg y Brif Ysgol yn'Aberystwyth wedi ei sefydlu ac yn dyfod yn mlaen mor llwyddianus. Nid oes neb ychwaith ag y maë cerddoriaeth ei genedl yn agos at ei galon agn^ffýdyw yn llawen wrth weled cadair gerddorol wedi ei sefydìu yno, ac athraw mor rhag- orol wedi ei osod ynddi. Hyd yn hyn nid ydyw cerddoriaeth wedi bod yn broffes yn mysg y Cymry. Y mae addysg reolaidd a disgyblaeth fanwl a chaled mewn cerddoriaeth yn bethau na wyr ond yr ychydig hyny a'u rhoddasant iddynt ac arnynt eu hunain ddim am dano. Mae yr addysg wedi bod yn benagored a di-drefn, ac o her- wydd hyny, i fesur helaeth yn ddiffygiol. Hyderwn y daw ein cenedl allan yn egniol i gefnogi y gadair hon. Y mae genym drì neu bedwar o bethau pwysig i'w gwneyd trwyddi. 1. Sefydlu proffeswr, neu athraw cerddorol, o ddysg . ac ymarferiad yn y gelfyddyd, yn mhob tref ac ardal boblogaidd yn ein gwlad, fel y caffo ein pobl ieuainc fatitais i efrydu, ac o hyny i ddeall gwahaniaeth rhwng sothach a pherl- au, ac y caffo archwaeth ein gwlad ei darparu i werthfawrogi y pur, y prydferth, a'r dyrchafedig. 2. Darpar dynion, mor bell ag y mae gwybodaeth ac ymarferiad cerddorol yn myned, at y gwaith pwysig o fod yn arweinyddion canu yn ein gwasanaeth cref- yddol. 3. Dwyn sylw y wlad at y ganghen dra phwysig hono ag sydd wedi ei hesgeuluso mor druenus genym hyd yn hyn, sef cerddoriaeth offeryn- ol. 4. Sefydlu Llyfrgell gerddorol i'r genedl, yn cynwys pob peth o bwys sydd wedi ei argraffu a'i ysgrifenu ar gerddoriaeth, yn Nghymru, yn gystal a holl wledydd eraill Ewrop a'r America. Gofod yn y lle hwn a balla i ymhelaethu. Cawn ddychwelyd eto at y pynciau hyn. Yn y cyfamser, da iawn yw genym weled y gwaith wedi cychwyn mor ragorol; a hyderwn mai llwyddiant mawr a . fydd arno. Y DIWEDDAR MR. J. A. LLOYD. Heddyw y mae genym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth Mr. John Ambrose Lloyd. Yr oedd ei iechyd wedi bod yn gwaelu er ys blynydd- oedd ; ac yr oedd yn ddigon eglur fod ei afiechyd yn prysur falurio ei gyfansoddiad; ac eto, nid oedd neb yn meddwl fod ei ymddatodiad mor agos. Bu farw, Tach. 14, yn nhŷ ei frawd-yn-nghyfraith, yn Lýyer- pool, yn y 60fed flwyddyn o'i oedran. Yr ydym yn gwybod yr addefa pawb fod Mr. Am- brose Lloyd yn un o brif gerddorion ein cenedl; fel cyfansoddwr Tonau Cynulleidfaol, yn wir, yr oedd yn rhagori ar bawb o'i gydoeswyr yn Nghymru. Mor foreu a'r flwyddyn 1835, pan oedd efe yn 20 oed, ymddangosodd " Wyddgrug" yn y Gwladgarwr ; ac y mae yn debyg o barhau mewn arferiad am flyn- yddoedd lawer i ddyfod, yn y trefniad newydd a wnaeth efe arni yn ol awgrymiad ei gyfaill Ieuan Gwyllt. Yn y flwyddyn 1843. ni a'i cawn wedi dwyn allan ei Gasgliad o Donau Cynulleidfaol. Ceir yn hwnw 28 o'i Donau ef ei hun, y rhai a arwyddant yn eglur yr elfen litbrig, naturiol a berthynai i'w ddawn. Yn 1846, pan oedd efe yn athraw yn y Mechanics Institute yn Liverpool, ymddangosodd yn Telyn Sion, dan olygiaeth Mr. Rosser Beynon, un o'r Tonau mwyaf poblogaidd a ysgrifenwyd yn Nghymru yn yr oes hon, sef " Eifionydd " o waith Mr. Lloyd. Oddiyno ymlaen, amnifero flynyddoedd, ysgrifenaii wahanol gystadleuon, a byddai ei Donau yn fuddug- ol, fel rbeol gyffredin, bob amser. Ymddangosodd nifer fawr o'i eiddo hefyd yn y Dysgedydd, ac yn y Salmydd Cenedlaethol a Ceinion Cerddoriaeth a ddyg- wyd allan gan Mr. T. Williams, Llanidloes. Yn mysg ei rai mwyaf poblogaidd a pharhaol y mae Alun (buddugol yn Manchester), Trallwm, Mary, Groeswen, Rhyl (a gyfansoddwyd ganddo i Ieuan I Gwyllt). Ymddangosodd rhai Tonau o'i eiddo mewn ' amryw Gasgliadau Saesneg; ac yn 1862, allan o 857 j o Donau a anfonwyd i gystadleuaeth yn Llundain, yr i oedd Ton o'i eiddo ef yn un o'r 6 a farnwyd yn deil- I wng o wobr. Dr. Dykes oedd awdwr tair o'r lleill. ! Y llynedd, ar ol llawer o flynyddoedd o barotoi, daeth allan gasgliad o Donau dan ei olygiaeth ef a Mr. E. Rees—Aberth Moliant. Y mae yn hwn tua 50 o'i Donau, o ba rai y mae amryw yn newydd, ac y mae yn sicr na ysgrifenodd efe erioed ddim gwell na rhai o'r rhai hyn. Ysgrifenodd hefyd amryw Anthemau, ac ychydig o Ran-ganau. Y mae ei Teyrnasoeddy ddaear(buddugol vn Bethesda, 1852), Deffro (anfuddugol yn Bethesda, 1852), Gweddi Habacuc, Antbem fuddugol Manchester (yn yr hon y trechodd efe liaws o gerddorion Lloegr, Iwerddon, a Chymru), yn gystal a'i Ran-ganau swynol a choeth, Y Blodeuyn Olaf a Rhosyn yr Haf, yn ad- nabyddus i'r wlad ; ond y mae yn amheus genym a oes cymaint o ddefnydd yn eael ei wneyd o honynt ag a ddylid. Cawn air yn mhellach yn ein nesaf ar ei gymeriad a'i gyfansoddiadau.