Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEEDDOE Y TONIC SOL-FFA. 33 PEEYGLON CANIADAETH Y CYSEGE. Tbaddododd y Parch. P. Howell, Blaenau Ffestin- iog, anerchiad rhagorol ar y testun hwn, ynnghyfar- fod Undeb yr Annibynwyr yn Merthyr. Ar ol sylwi ar y lbifur sydd yn bresenol yn Nghymru gyda cherddoriaeth, gofynai Mr. Howell: — " Pa fodd y mae yr adfywiad presenol yn effeithio, neu yn debyg o effeithio ar Ganiadaeth y Cysegr ?" Aeth yn mlaen i sylwi y gall fod yn achos o Es- (jeulusdra. Fe allai mai un o beryglon mwyaf caniadaeth y cysegr yn y dyddiau presenol yw cael ei hesgeuluso. Y mae dosparth mawr yn ein cynulleidfaoedd bob amser ag y mae bron yn anmhosibl eu cael i deimlo unrhyw ddyddordeb yn nghaniadaeth y cysegr, nac yn wir mewn unrhyw ganiadaeth. Y mae Uawer yn credu yn sicr nad yw y Creawdwr erioed wedi eu cynysgaeddu hwy â gallu i ganu; ac felly, nad yw yn disgwyl moliant oddi wrthynt, ac nad yw yn ddyledswydd arnynt i deimlo unrhyw ddyddordeb yn y rhan hono o'r gwasanaeth. Y mae dosbarth araíl yn barod i ymuno fel y gallant yn y gân, ond nid ydynt erioed wedi meddwl ei bod yn ddyled- swydd "arnynt i ddiwyllio dim ar y gallu sydd yn- ddynt, nac i gymeryd unrhyw ran mewn gwella a pherffeithio y rhan hon o wasanaeth yr Arglwydd. Gadawant hyny yn gwbl i flaenor y gân, ynghyd â'r ychydig sydd yn eistedd yn y seti canu. Byddai arnynt gywilydd rhoddi eu presenoldeb mewn cyfar- fod canu, na chymeryd unrhyw ran amlwg yn y gwasanaeth. Ond nid at y dosbarthiadau hyny yr wyf yn cyfeirio heno, ond yn hytrach at gantorion adnabyddus. Gwyddom am gynulleidfaoedd Ue y mae amryẁ o brif gantorion y gymydogaeth yn arfer ymgynnull, yn feibion a merched, rai o honynt yn arfer canu solos, duets, &c, roewn cyngherddau, ac arwain corau mewn cystadleuaeth. Gellid disgwyl fod caniadaeth y cysegr yn y cynulleidfaoedd hyny yn fywiog a llewyrchus; ond musgrell a difywyd iawn ydyw yn rhy fynych, a hyny am fod y cantorion goreu yn troi eu sylw yn gwbl at gerddoriaeth y concert a'r eisteddfod, ac yn esgeuluso cerddoriaeth y cysegr. Bhoddant eu horiau hamddenol gyda'r parodrwydd mwyaf i barotoi ar gyfer y cyngherddau a'r eisteddfodau, ond y mae awr mewn wythnos yn ormod i'w chysegru at wella a dyrchafu caniadaeth y cysegr. Ie, defnyddir dydd yr Arglwydd mewn niai manau i ddysgu ac ymarfer cerddoriaeth mewn ffordd o barotoi ar gyfer yr eisteddfod neu y gyng- herdd, tra y mae moliant yr Arglwydd yn cael ei adael o'r neilldu, ac yn rhewi ar wefusau yr addol- wyr. Yn sicr, "ni ddylai y pethau hyn fod felly." Y defnydd uwchaf ellir wneyd o'r dalent gerddorol, fel pob talent arall, yw ei chysegru i wasanaeth a gogoniant yr Arglwydd ; ac nid yw creadur dibynol byth yn ymddangos gymaint yn ei le a phan y mae yn dadgan moliant yr Hwn ag y mae yn derbyn pob daioni o'i law. Goddefir i mi ofyn i'r dosparth dan sylw a ydynt yn credu fod gwasanaethu i ddifyrwch y dorf yn y concert neu yr eisteddfod yn amcan mor deilwng a molianu yr Arglwydd yn ei dŷ ? Ac a ydyw cymeradwyaeth a chlod dynion i'w gystadlu am foment â chymeradwyaeth yr " Hwn sydd yn trigo yn moliant Israel." Perygl arall sydd yn bygwth caniadaeth y cysegr yn y dyddiau presenol yw, colli y teimlad a ddylai fod ynddo. Iaith y galon, neu y teimlad, yn benaf yw cerddoriaeth. Nid oes yr un teimlad o'i mewn, pa un bynag ai prudd ai Uon, ai galarus ai gorfoleddus, nad oes rhyw nodyn mewn cerddoriaeth yn allaog i'w gario allan a'i argraffu ar gydymdeimlad y gwrandawyr ; ac y mae hyny, yn ddiau, yn cyfrif am y dylanwad aruthrol sydd gan gerddoriaeth ar y byd yn mhob oes a gwlad. Fe allai mai am y rheswm hwn y daeth cerddoriaeth i arferiad mor foreu. Yn ol yr hanes Ysgrythyrol, y mae yn gyfoed â'r celfydd- ydau mwyaf angenrheidiol er cynhaliaeth a chysur dyn, oblegid yr oedd Jubal, " tad pob teimlydd telyn ac organ," yn frawd i Jabal, " tad pob preswylydd pabell a pherchen anifail," ac i Tubal Cain, " gweith- ydd pob cywreinwaith pres a haiarn." Sut y daeth cerdâoriaeth i arferiad mor foreu ? Yn sicr, nid oes dim ynddi hi i gynnal angenrheidiau y corph, a gallem feddwl y gallasai y byd wneyd yn hwy o lawer hebddi. Wel, prawf yw hyn etto " nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw." Yr oedd yn ei fynwes ef galon yn curo, yr oedd yn hono deimladau byw am- rywiol, ac yr oedd yn rhaid iddi gael iaith briodol i fynegu y teimladau hyny. Rhydd hyn gyfrif eto am y ffaith fod cerddoriaeth yn cael ei hymarfer mor gyffredinol. Y mae yn debyg fod yn anhawdd dyfod o hyd i unrhyw genedl, beth bynag yw ei sefyllfa mewn gwareiddiad, nad yw yn ymarfer rhyw fath o gerddoriaeth. Pa mor dywyll bynag yw deall yr anwariad y mae teimladau ei galon yn fyw, ac yn siarad yn iaith cerddoriaeth. Bhydd hyn eto gyfrif am y ffaith, po gryfaf a gwresocaf fydd y teimlad, mwyaf yn y byd o gerddoriaeth fydd yn y mynegiad o hono. Dylai y rheswm am fod cerddoriaeth yn cael ei harfer yn ngwasanaeth y cysegr fod yn eglur i bawb, yn annibynol ar y ffaith ei bod yn ordinhâd ddwyfol. Iaith y galon ydyw, ac y mae y galon sydd yn mawrhau yr Arglwydd yn caru dadgan ei glodydd yn ei hiaith ei hun. Os yw hyn yn wirionedd, y mae