Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 29 ADRODDIAD MR. HULLAH AM 1878. Mae yr adroddiad hwn wedi ei gyhoeddi; a gellir dweyd ara dano ei fod, o leiaf, yn fwy cymedrol o ran ton na'r adroddiad y flwyddyn flaenorol. De- chreua trwy ddweyd:— " Yn yr Adroddiad y cefais yr anrhydedd o'i gyf- lwyno i'ch Harglwyddiaethau y flwyddyn ddiweddaf, rai a ymdriniais yn lled helaeth a'r gwahanol ddull- iau o ddysgu cerddoriaeth leisiol a fabwysiedir yn y colegau sydd dan fy arolygiaeth. Rhoddais fy marn yn gryf yn erbyn pob rhyw ymgais i wasgu ar athrawon cerddorol yn y colegau darpariadol, yn union-gyrchol neu yn anunion-gyrchol, i fabwysiadu unrhyw ddull penodol o addysgu, llyfrau, neu ym- arferiadau. Y mae amcan eithaf pob athraw deallus yr un, ond y mae y ffyrdd i'w gyrhaeddyd yn am- rywiol, a'r rhai mwyaf cynefin yw y diogelaf, os nad y byraf. Yn mhellach, y mae y dulliau hyn—dim ond dau mewn gwirionedd—yn gwahaniaethu mwy o ran ymddangosiad nac mewn gwirionedd. Mae y rhai addadleuant dros y naill yn siarad am dano weithiau fel " yr egwyddor donyddol," ac am y llall fel y " graddeg sefydlog." Mae y dynodiadau hyn yn gamarweiniol. Mewn helaethach ymwneyd ag athrawon nag a syrthiodd i ran neb arall, nid wyf fl wedi cyfarfod a, na chlywed am, neb ag a fyddai yn dysgu ar egwyddor y «• graddeg sefydlog," neu na fyddai yn dysgu ar "yr egwyddor donyddol," os wrth yr "egwyddor donyddol" y meddylir, fel y dylid meddwl, y gydnabyddiaeth fwyaf hollol o bwysigrwydd tonyddiaeth [perthynas y gwahanol seiniau a'r tonydd], ac nid dull neillduol o argraffu hyn ar y disgyblion ; neu, mewn geiriau eraill, defn- yddiad o'r "Do symudol." Gwrthodir y dull hwn gan lawer o athrawon, nid o ran yr egwyddor, ond o ran yr ymarferiad; gwelant fod y cymhwysiad o hono yn dra chyfyng, a'i fod yn gwbl anigonol gyda golwg ar gerddoriaeth ddiweddar." Gyda golwg ar ddull a defnyddiau yr arholiad, yr oedd wedi bod yn gwrando ar yr ysgolheigion yn canu gyda'u gilydd, dan arweiniad yr athraw; ond yr oedd y rhan fwyaf o'i amser wedi ei roddi i brofi pob un yn unigol. "Cymerais fy mhrofion yn y gwaith hwn o ganu ar yr olwg gyntaf allan o St. Paul Mendelssohn. Dewisais yr oratorio hon am ei bod i'w chael yn y Tonic Sol-ffa yn gystal ag yn yr Hen Nodiant." Cyfyugais fy hun at y gwaith hwn am fod dymuniad hollol resymol wedi cael ei ddatgan am i efrydwyr yr holl golegau gael eu profi yn yr un gerddoriaeth. Rhoddais o flaen pob efrydydd yn gyntaf y coral (Rhif. 3) To God on high—iddo ef ganu neu sol-ffeio ei ran ei hun tra byddwn inau yn chwareu y rhanau eraill. Os gwnai hyny yn lled dda,rhoddwn un arall ychydig yn galetach (Rhif. 11), Happy and blest. Ẅedi hyny Rhif. 33, O be gracious; acyna, Rhif. 26, How lovely. Cefais rai yn gallu canu Rise up and Shine, ac 0 great is the depth, yn hollol berffaith; ond yn anaml iawn y ceid hyny. Ar y cyfan, anfoddhaol oedd y prawf, ac eto, yr oedd yn well na'r flwyddyn flaenorol. Nid ydyw yn rhyfedd, ar yr un pryd, fod y medr a ddangosir mor fychan, wrth ystyried fod can lleied wedi dysgu dim cerddoriaeth cyn myned i'r colegau. " Allan o 1,636 o efrydwyr (medd Mr. Hullah) a ar- holwyd genyf y flwyddyn hon, nid oedd dim llai na 938 heb dderbyn dim addysg mewn cerddoriaeth— hyd yn nod yn yr elfenau cyntaf, cyn myned i'r colegau, ac yr oedd llawer heb arfer canu hyd yn nod wrth y glust. [Y mae y ffaith hon yn un ddieithr a phwysig. 0 ba le, tybed, y mae defnyddiau athrawon ein hysgolion dyddiol yn cael eu codi ?] " Ac etto," medd Mr. Hullah, "yr oedd y mwyafrif o honynt wedi bod ynpupil-teachers." Dywed Mr. Hullah nad oes un gangen arall o wybodaeth ond cerddoriaeth ag y mae yr efrydwyr yn dysgu ei helfenau cyntaf yn y coleg darpariadol; a phaham y dylai hyn fod ? Nid llawer gwell y cafwyd yr efrydwyr yn y clust- ymarferion; ac yr oedd yn rhyfedd genym ddarllen adroddiad mor antfafriol am goleg yr Egluys Rydd yn Glasgow yn y mater hwn. Da genym weled fod Mr. Hullah wedi dwyn cynghanedd i fewn eto i'r ar- holiad. Nid ydym yn meddwl y dylai athrawon eiu hysgolion dyddiol fod yn gwbl ymddifaid o wybod- aeth am gynghanedd ac egwyddorion cyfansoddiant. Am fedr i chwareu offerynau, y mae yn bwne arall. Goreu oll pa fwyaf o hyny a geir; ond prin yr ydym yn meddwl mai doeth ydyw ei ddwyn yn mlaen ar hyn o bryd fel un o'r profion. Y mae genym obaith cryf y deillia llawer o ddaioni oddiwrth yr arholiadau hyn ; ac yr ydym yn tybied fod Mr. Hullah yn dyfod i ddeall ei le a'i waith yn well yn ei gysylltiad a'r ddau ddull. Da iawn ydyw genym weled rhai o'r Colegau Cymreig yn sefyll mor uchel yn y Schedule. Safant fel hyn:— Bangor ..... Caernarfon.. Caerf yrddin Abertawe (merched) Nifer a Rhag- holwyd. I orol. 2.94 Da. Cym- ; edrol. Cyfan- (Fair). swm. 41.94 I 35.4S 77.42 17.65 ! 52.94 73.53 18.75 I 34.37 53.12 20.00 ! 72.00 92.00