Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

kj±j,jl\>xsjlJ\ji\> X ÌUINHJ öUÌJ-D'Jb'A. 25 YE AEWEINYDD OANÜ. Diweddar mewn cymhariaeth yw y syniad o roddi yr holl gerddorfa, yn offerynwyr yn gystal a lleisyddion, yn gwbl a hollol dan arweiniad un person, yr hwn a elwir Conductor. Ond erbyn hyn y mae wedi dyfod yn beth a deimlir fel peth anhebgorol angenrheidiol, fel y mae gan bob cor a chymdeithas gerddorol eu harwein- ydd, a disgwylir i bob aelod ddilyn cyfarwyddiadau yr arweinydd gyda'r manylrwydd a'r gofal mwyaf. Peth mwy diweddar fyth, feallai, o leiaf yn Nghymru, ydyw y syniad o arweinydd canu yn y gynulleidfa grefyddol. Ymddengys nad oedd y gair neu yr enw mewn bodol- aeth hyd yn ddiweddar; ac os gwir yw y dywediad— " Beth bynag sydd y mae enw arno," yr ydym yn cael ein tywys yn ddigyfeiliorn i'r casgliad, gan nad oedd yr enw mewn bod, nad oedd ychwaith y fath beth mewn bodolaeth ag arweinydd canu. Yn mysg yr enwau ar- feredig yr oedd—" Codwr canu," Un yn codi'r mesur," " Dechreuwr canu," " Un yn pitchio'r Dune," àc A rhaid addef fod yr enwau hyn yn dynodi y gwaith a wnelid gyda llawer o gywirdeb. Dyna " Un i godi'r mesur." Cryn bwnc yn y dyddiau gynt oedd cael un i ddeall y "mesur;" ac morbwysigac anhawdd oedd hyn fel yr aed i alw y Don ar yr enw " mesur." A gormod o gamp yn fynych fyddai cael Ton yn hollol o'r un hyd a llinellau y mesur; a byddai raid i'r " cod- wr mesur," yn ol y ddawn a roddasid iddo ef, yn fynych a'rfer ei fedr i ychwanegu ychydig o nodau at y Don, tynu oddiwrthi, neu gylymu wrth eu gilydd, fel y byddai yr angenrheidrwydd, er mwyn cael y Don a Uinellau y mesur yn ogyhyd eu hesgeiriau. Y cwbl fyddai gan y swyddog hwn i'w wneyd fyddai " codi y mesur," a gofalu na byddai iddo syrthio i'r clawdd hyd nes byddai y penill wedi ei fesur drosodd. Dyna y " Dechreuwr canu " drachefn neu y " Pitchiwr Tune," ei waith ef fyddai dechreu y Don; yna, ar ol iddo ef ei dechreu, gofalai y gynulleidfa am ei chanu yn yr hen arddull ragorol a adnabyddid wrth yr enw—" Pawb i'w ffordd ei hun "—yr arddull yr elai Cadeirydd Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nolgelleu i'r fath hwyl wrth ddisgrifio ei rhagoriaethau. (Gresyn hefyd fod dynien a godir i'r fath uchelfanau yn medru ymollwng i'r fath ffolineb.) Ond i adael y " pethau gynt a fu," ymddengys i ni nadydyw ein gwlad hyd yn hyn wedi dyfod i edryeh yn briodoí ar bwysigrwydd, lle, a gwaith yr cwweinyddccmu yn y gyuulleidfa grefyddol. Ar ryw gyfrif, y mae yn amheus a oes un swydd fwy pwysig yn perthyn i'r eglwys na'r swydd hon. Os ystyriai 2. W. Beecher fod arno gymaint o angen am oleu a chyfarwyddyd yr Ysbryd Glan i dethol Hymnau i'r gynulleidfa i'w canu ag sydd arno tuag at gyfansoddi ei bregeth, dywedwn ninau fod llawn cymaint o angen am yr un peth tuag at ddewis Ton briodol ac arwain y gynulleidfa yn y rhan bwysig hon o'r addoliad dwyfol. Os felly y mae, mae yn sicr y dylai llawer iawn mwy o ofàl, pwyll, a difrif- oldeb gael eu harferyd wrth ddewis dynion i'r swydd bwyẁg hon. Anogir gweddi, pwyll a difrifoldeb meddwl wrth ddewis diaconiaid a phregethwyr; ond am yr arweinydd canu. yr hwn y mae ei le a'i waith yn llawn mor bwysig, a dweyd y lleiaf, a'r eiddo neb o honynt, penodir ef yn fynych yn y dull mwyaf difater. Ië, yn wir, nid yn anfynych y gwelwyd dynion yn ym- gymeryd a'r gwaith hwn heb gael eu hethol gan yr eglwys o gwbl. Y mae sefyllfa cerddoriaeth yn ein mysg bellach yn galw am drefn hollol wahanol a gwell yn y mater hwn —trefn a fydd yn dwyn gyda hi bob difrifoldeb, pwysig- rwydd, a chrefyddolder ag sydd yn .perthyn i osodiad yn swyddau eraill yr eglwys. Dylai y drefn hono gynwys o leiaf y pethau canlynol:— 1. Anerchiad gan y Gweinidog, yn galw sylw yr eglwys at le a gwaith arweinydd canu, a'r cymhwysder- au angenrheidiol yn y cyfryw, fel dyn, fel cerddor, ac fel Cristion. 2. Ehybydd amserol i'r eglwys o adeg yr etholiad, ac anogaeth ddifrifol i'r holl eglwys fod yn bresenol i bleidleisio. 3. Etholiad trwy bleidlais dirgelaidd, gan bob un o aelodau yr eglwys—pwy bynag a gaffo ddwy ran o dair o'r holl eglwys i fod yn etholedig. 4. Gosodiad yn ei swydd, pryd yr ymddiddenir a'r un a etholwyd gyda golwg ar ei olygiadau am ganiadaeth grefyddol, ac y rhoddir anerchion iddo ef ac i'r eglwys ar eu gwahanol ddyledswyddau gyda'r rhan bwysig hon o wasanaeth crefydd. Wedi ethol a gosod yr arweinydd yn y drefn hon, efe bellach fydd gweinidog cerddoriaeth yr eglwys a'r gynulleidfa. Arno ef y bydd gofal yr holl waith. HANESION CERDDOEOL, Llanidloes.—Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn y lle hwn Meh, 1, ar y don gynulleidfaol, allan o 51 o gyfansoddiadau, barnwyd yr eiddo Mr. H. Jerman yn oreu. Dyfarnwyd y wobr am ganu The heavens are telling (Haydn) i gor Llanbrynmair, dan arweiniad Mr. E. H. Williams. Y beirniad cerddorol oedd Mr. D. Buallt Jones. Cafwyd cyngherdd yn yr hwyr, yn yr hon y gwasanaethwyd gan Miss Magor, Mr. Grove3, Casnewydd, y beirniad, a chor buddugol Llanbryn- mair. Dinbtch. — Yn Nghymanfa Ysgolion dosbarth 'Rhuthin, yn Rhuthin, Meh. 5, canwyd y darnau can- lynol:—Dychweliad yr Afradlon, gan gor Rhuthin; Canwn am fod yn rhydd, gan gor Rhewl; Yr Haf, ac Arglwydd, chwiliaist, gan gor Pentre Celyn; 0 d'wed gawn ni gwrdd yn y nef, gan gor Clawdd-newydd ; Yn nes, fy Nuw, i ti, gan gor Derwen; Oddiar y traeth a Gwelir teyrnas Iesu mawr, gan gor Gyffylliog; O Gymru anwylaf a'r Gwanwyn, gan gor Hiraethog- Cafwyd cyfarfodydd tra dymunol. Ai ni fydda cystadleuaeth gerddorol, mewn rhyw ffurf, yn ddymun ol yn y Gymanfa hon.—I.