Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 21 CYMANFAOEDD CERDDOROL. Yn ystod y pedìir wythnos ddiweddaf, cawsom yr hyfrydwch o fod yn bresenol mewn pedalr o Gymanfa- oedd' Cerddorol; ac y mae yn dda genym weled y daioni dirfawr a gyuyrchir trwy y cyfarfodydd hyn. y gyntaf oedd Cymanfa Undeb rhan uchat' Sir Dref- aldwyn, yn Machynlleth, Eb. 30. LlywydJid y cyfar- fodyddgany Parcbn. J. F. Jones, B.A., a Joseph ThomaSj Carno. Y tonau a ganwyd oedd—Freyburg, Gethsemane, Silesia, Amsterdam, Leipsic, Trefdeyrn, Hen 50, Alun, a'r anthem Can Moses (J. Ellis). Yn vr ail gyfarfod — Wareham, Palestina, Melcombe, Croeshoeliad, Rotterdam, Dinbych, Llangeitho, Tiber- ias, Psalm Uon, lîliif. 5, Pa beth a wnaf (Trysorfa v Plant Awst 1S73), Cydgan, Haleluwia (Beetboven). Gellir dweyd yn ddibetrus fod y canu yn y Gymanfa hon yn rhagori ar yr hyn a gafwyd yn nghymanfaoedd blaenorol yr Undeb. Cafwydcanu tra rhagorol—o ran medr, galíu, a theimlad, ar rai o'r Tonan; a diau y bydd yn well eto gydag egni ac ymroddiad.—Cawsom gyfarfod dosbarthiadol da yn y Tabernacl, Mon, nos Fawrth, Mai 12, pryd y canwyd amryw o'r Tcnau sydd i gael ea canu yn ÎSTghyinanfa y Sir yn Llangefni. Cawsom yr ail Gymanfa yn Ysbytty Ifan, Mai 16. Cynwysai hon Dolyddelen, Bettws y Coed, Penmachno, Ÿsbytty, &c. Canwyd yn y prydnawn—Navarre, Hyd- er, Dolyddelen, Llangan, Mary, Gwahoddiad, Psalm- tlon Rhif 6, a'r Antbem A bydd arwyddion (J. Wül- iams). Yn yr hwyr—Caio, Braint, Lledrod, St. John, Rhad Ras, Rotterdam, Bavaria, Manheim, Talybont, Psalm-don llhif 7, a'r Anthem Teyrnasoedd y ddaear (Lloyd). Gyda'r yni canmoladwy a geir yn y dosbarth Lwn, gellid cael yma ganu gwell eto pe byddid yn ym- roddi i ddiwyllio y lleisiau (yn enwedig y soprano), fel ag i ganu yn fwy pur a choeth. Ynesafoeddyn Amlwch. Çenid yma yn y pryd- nawn—Lledrod, Carmel, Glanrhondda, Noddfa Tal y bont, Llangoedmor, a'r Psalm-don Rhif f. Yn yr hwyr—Rotterdum, Luther, Liverpoo), Moab, Bethel, St. John, a'r Antliem Par i mi wybod dy ffyrdd (D. Harries). Nid oes mwy o welliant wedi cymeryd lie mewn cauiadaeth grefyddol yn ystod yr ychydig flyn- yddoedd a aeth heibio mewn un parth o'r wlad nag yn y dosbarth hwn. Cafwyd canu da, a thra effeithiol, mewn rhai o'r cymanfaoedd blaenorol; ond ar y cyfan, cafwyd canu gwell yn y gymanfa hon nag a gafwyd erioed o'r blaen. Canwyd Carmel, Luther, a Tal y bont yn rhagorol ; ond dichon mai y fwyaf eíFeithiol oedd yr Anthem. Cafwyd yn y gymanfa hon hefyd brawf neillduol o'r medr i ddarüen sydd wedi ei enill yn y wlad trwy y Sol-ffa. Ar ol clywed am y Don ' lesu o Nazareth sy'n myn'd heibio," (Swn y Juwbili) teimlai rhai awydd eryf am gael ei chanu. Cafwyd ychydig o ymarferiad arni rhwng y ddau gyfarfod, a chanwyd hi yn dra rhagorol ac effeithiol yn yr hwyr. . Y Gymanfa nesaf a gawsom oedd yr hon a gynhal- ìwyd yn Cilcwm, Sir Gaerfyrddin, Mai 25. Trwy fod y capel eang yn Llanyinddyfri yn cael ei ail-drefnu, penderfynwyd cynal y Gymanfa yn Cilcwm. Ond er- byn myned yno, cafwyd yn fuan nad oedd y capel yn ddigon i gymwys haner y gynulleiJfa. Cafwyd lle cyf- leus yn y gymydogaeth—un o'r rhai mwyaí' cyfleus a welsom erioed—ar lan y Towy, yn yr awyr agored. Gosodwyd dwy " gambo " vn y gwaelod i ffurfio esgyn- lawr, a threfnwyd y gynulleidfa ar y llethr o flaen yr arweinydd, ac yr oedd y cymylau yn ffurfio 'parasol hyfryd i atal gwres yr haul. Cawsom gyfarfodydd da yno yn y boreu a'r prydnawn, acun rhagorolyn y capel yn yr hwyr—a ficer y plwyf yn y gadair. Canwyd y Tonau—Llangan, Gweddi Luther, Prydain, Talybont, Llangoedmor, St. Petsr, Angels' Hymn, Hoianna, Dnrham, idangristiolus, Esther, Twrgwyn, IMoab, St. John, a'r Psalm-don Rhif 5. Bydd y gymsmfa hon yn sicr o adael ei hol ar y wlad. Y CORAU CYMREIG. Syr,—Wrth ddarllen y Cerddor am y mis diweddaf, gwelais ysgrif dan y penawd uchod. Y mae yn dda iawn genyf i " John Sol-ffa " ddwyny mater i sylw, ac yr wyf yn cydolygu ag ef yn hollol y gellid cael cystad- leuaeth gydgenedlaethol ya Nghymru. Os yw ein cymydogion y Saeson yn medru cael cys- tadleuaeth ar radd uchel, paham na all Cymru, mam yr Eisteddfod, ei chael ? Os medrodd ein cymydogion roddi gwobrwyon ma^-rrion am ddangos talent mewn canu, &c, paham na allwn ninau fel Cymry wneuthur yr un fath ? Pa eisiau sydd i ni fyned i fyny i Lundain iymgystadlu a'r Saeson os bydd yn bosibl i ni eu cael hwynt yma ? Yr ydym yn credu mai un o'r prif res- ymau dros beidio cynal y gystadleuaeth eleni yn y Palas Grisial oedd o herwydd nad âi Côr mawr y De- híudir i fyny. Beth a ddelsai o honi y flwyddyn gynt- af onibai i'r dewrion Gymry fyned yno a chipio y brif wobr ? Buasai yn fethiant hollol. A'r.un fath fuasai y tro diweddaf, o lierwydd y Cor Cymreig oe lcì y prif attyniad. Pwy . a aeth a phrif wobrau y flwyddyn gyntaf, onid Cymry, yn yr unawdau a'r Car.u Cor- awl? Yn awr, ynte, gan mai Cymru oedd mewn gwirion- edd yn cynal y gystadleuaeth i fyny, paham nad all gynal Cystadleuaeth felly ynddi ei hun ? G.idewch i ni ymroi atti o ddifrif; bydded i'r rhai hyny sydd fwyaf blaenllaw gyda'r canu, &c, wneuthur eu goreu. Bydded i ni gael Cystadleuaeth ag a fydd yn aurhyd- edd i Gymru. ac a barhao i fod feìíy byth. Gan obeithio y bydd i ryw rai gymeryd at y mater o ddifrif fel y gallom gael Cystadleuaeth a ddena y Saes- on yma i'w mwynhau,—Y gorphwysaf, Yr eiddoch yn serchog, Mtnyddtn. O.Y.—A fyddai yn ormod gofyn i Mr. Parry, Birhen- head, Ieuan Gwjdlt, Caradog, Dewi Ernlyn, &c, i ohebu a'u gilydd, neu drwy y Cerddor yn ei chylch ?