Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEEDDOE Y TONIC SOL-FFA. CANIADAETH GEEFYDDOL YN NGHAPEL ME. SPUEGEON. Y mae cyfres o lythyrau ar ganiadaeth grefyddol yn y prif addoldai yn Llundain yn ymddangos yn yr English Independent. Ysgrifenir hwynt, vr ydym yn deall, gan Mr. John Spencer Curwen, mab henaf Mr. Curwen. Ehoddwn yma grynhodeb o'i ysgrif ar gan- iadaeth y Tabernacl. Mae y ffaith fod cynulleidfa Mr. Spurgeon y fwyaf yn y deyrnas, yn rhoddi i'w cherddoriaeth ddyddordeb mawr yn ngolwg y cerddor crefyddol. Mae y gynull- eidfa yn un arbenig ar gyfrif ei maint, yn gystal ag ar gyfrif y swyn sydd gan lais a phreseuoìdeb Mr. Spur- geon arni. Ni chenir dim ond Hymnau yn y Tabernacl. Cy- merir y rhai hyn o gasgliad o ddim llai na 1,130, a wnaed gan Mr. Spurgeon tua saith mlynedd yn ol. Daeth hwn i arferiad yn lle casgliad Dr. Eippon. Gyda llaw, bu Dr. Eippon yn weinidog i'r gynulleidfa o'r hon yr hanodd cynulleidfa y Tabernacl. Cymerir y Tonau gan mwyafo'r "Union Tune-Book," rhai o'r " Bristol Tune-Book," ac ychydig o " Hyinns Ancient and Modcrn." Ni ddygir Ton newydd i arferiad oni fydd wedi dyfod yn boblogaidd yn gyntaf yn yr ysgol- ion a'r dosbarthiadau sydd yn perthyn i'r lle. Cynygir hi yn y gynulleidfa; os â hi yn dda, yna gosodir hi ar yrhestr, os yn wahanol rhoddir hi heibio ar unwaith. Mae y dull hwn yn un i'w gymeradwyo, ac y mae yn un tra gwahanol i'r dull sydd gan rai arweinyddion o ddwyn tonau i fewn heb ofalu dim am y gynulleidfa. Tr arweinydd, yr hwn a fu yn ei swydd er pan yn fach- gen, oedd Mr. Hale ; ond y mae Mr. Turner yn bresen- ol wedi cymeryd ei le. Yr hymn gyntaf boreu y Sabbath oedd " God is our refuge," ar y don " Evan." Darllenodd Mr. Spurgeon hi yn araf ac effeithiol, yna efe a enwodd y don, a darllenodd y penill cyntaf drachefn. Gyda bod y bobl yn codi, daeth yr arweinydd yn mlaen, a dechreuodd y soprano gyda lìais eglur. Fel cawr ag sydd yn cymer- yd ychydig o amser i gyffroi ei hun, gadawodd y gy- nulleidfa i nodyn neu ddau fyned heibio cyn cychwyn. Yna dyma y llanw mawr nerthol yn ymlifo o bob cwr o'r adeilad. Y mae canu mwy coeth mewn llawer cynulleidfa, ond nid oes canu mewn un o honynt ag sydd yn cyffwrdd ac yn cynhyrfu y galon, ac yn codi yr yspryd i dymer addolgar, fel y ceir yma. Yr ail hymn oedd " Thou Hidden love of God," ar y don "Creation." Y drydedd oedd " Beneath thy cross," ar " Eockingham." Yr oedd y bobl yn cynhesu yn eu gwaith, ac yr oedd y gyfrol o sain a roddid allan yn fwy nag o'r blaen. Ond paham y darllenir yr ftymnau ddwywaith drosodd! Gall fod yn gymhorth i rai pobl anllythrenog i ddeall y geiriau, a gall dull eöeithiol Alr. Spurgeon yn eu darllen gynorthwyo i gynyrchu ysbryd defosiynol y bardd yn y gynulleidfa; Ond y mae braidd yr holl hymnau a genir yn rhai mor gynefin fel nad oes dim angen am y naill na'r llall. Y mae eu darllen felly yn cymeryd amser, ac y mae yn flinder i lawer; ac heblaw hyny y mae yn gwneyd i ffordd a newydd-der y meddyliau sydd i gael eu dat- gan. Er fod yrarweinyddyn dechreu y don, Mr. Spurgeon mewn gwirionedd sydd yn Uywio y canu, fel pob peth arall yn y Tabernacl. Y mae efe yn cymeryd pleser mawr yn y rhan hon o'r gwasanaeth, ac y mae yn awyddus am fod pob dyn, adynes, a phíentyn yn canu. Wrth nodi yr hymn, y mae yn gyffredin yn gwneyd sylw, megys, " Gadewch i ni ganu Psalm 48 yn orfol- eddus," neu, Anwyl gyfeillion, mae yr hymn hon yn llawn o lawenydd, gadewch i ni ei chanu alían o'r galon" &c. Eai prydiau y mae yn atal y gynulleidfa, ac yn gwneyd iddynt ganu yn fwy tyner, neu yn fwy cyflym, a bydd y gwahaniaeth yn yr effaith weithiau yn rhyfeddol. Dywedai unwaith, "Anwyl gyfeillion, mae y diafol yn gwneyd i chwi lusgo haner nodyn ar ol weithiau, gwnewch eich goreu i'w orchfygu heno, a chanu mewn amser priodol." Prydferthwch canu y Tabernacl yn bresenol yw crefyddolder ac ysbrydolrwydd. Dyna briodoledd uchaf caniadaeth gynulleidfaol; heb hyn nid yw cerddoriaeth eglwysig yn werth dim. Trueni yw fod y gwrthweithiad yn erbyn defodaeth Babaidd wedi gyru yr eglwysi Puritanaidd i'r eithaf gwrthgyferbyn- iol, ac wedi eu harwain i dybied a dweyd, *' Nid oes dim gwahaniaeth yn mha ddull y byddwn yn canu ond i ni ganu o'r galon." Paham y dylai canu fod yn eithriad i bob peth yn hyn ? Nid ydyw pobl yn dweyd am ddim arall, * nid oes dim gwahaniaeth pa fodd y gwneir ef ond iddo gael ei wneyd.' A siarad oddiar safle cerddorol, y mae canu yTaber- nacl yn mhell iawn ar ol o ran Ileisio a mynegiant. Mae yn wir fod y gynulleidfa yn fawr iawn, ac eto, gyda llafur, gellid gwneyd llawer i'w wella. I ddech- reu, y mae allan o bob rheswm disgwyl am ddim gwelliant hyd nes byddo rhyw drefn yn cael ei mabwysiadu i ddysgu y tonau i'r bobl, ac i'w dysgu i ddarllen cerddoriaeth. Dylai un Llyfr Tonau gael ei fabwysiadu, a hwnw yn nwylaw yr holl gynulleidfa; a dylai y llafur fod yn mhob cyfeiriad, o'r Ỳsgol Sabbath- ol i fyny. Y mae arrceinydd mewn cynulleidfa o'r fath yma yn hollol analluog i'w llywodraethu, pryd nad yd- yw ond arweinydd yn unig ; ond pe byddai efe hefyd yn athraw ar nifer o ddosbarthiadau canu mawrion, ac yn arweinydd cymdeithas gerddorol o amryw ganoedd mewn rhifedi, yn ymgynull bob wythnos i ymarfer a'r Hymnau a'r Tonau a genir, byddai ei lais a'i ddylan- wad i'w deimlo yn y gynulleidfa ar y Sabbath; a chydag addysg ac ymarferiad felly am rai blynydd" oedd, byddai yr un ysbryd wedi meddianu corph mawr y gynulleidfa. Maewolaeth Madam Pasepa-Eosa—YroeddMadam Parepa-Eosa (Miss Parepa gynt) yn un o brif gantor- esau Lloegr. Groegwr oedd ei thad, a Saesnes, gyda rhyw gymaint o'r gwaed Cymreig, oedd ei mam. Daeth drosodd i Brydain yn 1857, a chymerodd le