Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PENCERDD GWYNEDD AT EI GYD-GENEDL. Fy Anwyl Gyfeillion,—Y mae fy nghysylltiad fel efrydydd â'r Athrofa Gerddorol Freninol yn Llundain bellach wedi darfod. Dymunaf gyfìwyno fy niolch- garwch gwresocaf i bawb o'm cyfeillion a fu mor gar- edig a'm cynorthwyo i sicrhau y breintiau gwerthfawr sydd yn nglyn â'r Athrofa hono. Y mae yn bleser genyf gydnabod fy mod wedi cael pawb yr ymofynwyd am eu cynorthwy yn ewyllysgar a pharod i wneyd yr hyn oll a allent i mi yn ystod yr amser y bum yn yr Athrofa. Derbynied fy nghyfeillion yn Meirionydd ae Arfon, yn arbenig, fy niolchgarwch mwyaf diffuant;—y naill am roddi y start cyntaf i mi, a'r lleill am eu cefnogaeth tra y bum yn yr Academy. Nis gallaf ymattal rhag enwi y Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug, fel un yr wyf yn teimlo fy hunan o dan rwymau neillduol iddo, oblegid mai mewn canlyniad i'w recommendation ef y bu i Undeb Cerddorol Ardudwy symud yn mlaen gyntaf yn yr achos hwn, ac y mae wedi bod yn gyfaill myn- wesol i mi o hyny hyd yn awr. Y mae lluaws o gyf- eillion anwyl eraill y caraswn eu henwi, pe buasai gofod yn caniatau, i'r rhai yr wyf gyda'r parodrwydd mwyaí yn cydnabod fy rhwymedigaeth. Gallaf eich hysbysu un ac oll mai fy amcan penaf yr holl amser y bum yn yr Academy ydoedd cymhwyso fy hunan i wasanaethu fy nghenedl mewn cysylltiad â cherddor- iaeth yn Nghymru, " Gwlad y Gân." Gan lwyr fwriadu o hyn allan fyw i' r genedl yr wyf wedi bod am dymor yn byw arni, y gorphwysaf, Yr eiddoch yn rhwymedig, JOHN HENRY EOBEIITS, (Pencerdd Gwynedd). Bethesda, Bangor. OFFERYNAU CERDD MEWN ADDOLIAD. Syr,—Mae yn debyg mai mewn addoliad y defnydd- iwyd yr offeryn cerdd gyntaf. Ni buasai Ysbryd Duw yn rhoddi hanes ei wneuthuriad, ac enw y gwneuthur- wr, pe buasai yn cael ei ddefnyddio i rywbeth arall; a dichon mai mewn cysylltiad âg addoliad y Duw byw y cedwid yr offerynau am lawer o ganrifoedd. Yn amser Dafydd dygwyd cerddoriaeth offerynol i fwy o fri nag erioed yn mhabell yr Arglwydd; ac yn üyddiau Solomon ni a gawn hanes y seindorf gyntaf fu ar y ddaear erioed yn gwasanaethu JJuw yn y deml. Ond mae yn ddrwg genym iod yr offerynau erbyn hyn wedi myned i was- anaethu y diafol, ac yn cael eu hystyried fel pethau aflan a llygredig, fel na chaniateir lle iddynt yn ein haddoliad. Mae yn dda genym er hyny weled fod llawer o eglwysi yn y dyddiau hyn yn gallu gweled beth sydd iawn yn y mater hwn, ac yn meddu ar ddigon o wrol- deb i wneyd hyny, er ei fod yn groes i farn y lluaws, ac yn tori ar draws y rhagfarn sydd yn erbyn yr offer- ynau, ac yn eu dwyn i mewn i'r gwasanaeth. Ond er ein bod yn credu mai yn yr addoldai y dylent fod, yr ydym yn gorfod credu y buasai yn well i lawer o gy- nulleidfaoedd pe heb erioed glywed son am danynt, o herwydd diffyg ystyriaeth briodol o ddefnydd offerynau mewn addoliad. Rhoddir yr offeryn i arwain y canu, ac nid i'w gynorthwyo; ac fel rheol, cV>wareuir y dôn, neu ran o honi, cyn i'r gynulleidfa ddechreu, yr hyn sydd nid yn unig yn hollol afreidiol, ond yn niweidiol. Mae yn aml yn ymüd ymaith y teimladau tyner fydd wedi eu cynyrchu gan y bregeth neu y weddi neu ddarlleniad o air Duw, ac fel rheol nid oes ond ychydig iawn yn gallu ei fwynhau. Yr ydym ni yn cyriyg fel meddyginiaeth i'r peth hwn, fod yr arweinydd a'r chwarëuydd (os bydd dau) yn sefyll yn yrnyl eu gilydd, ac yn cytuno ar dôn i'w chanu; yna, fod yr arweinydd yn cymeryd ei gyweir- nod oddiwrth yr offeryn, ac yn dechreu canu, fel pe na buasai yno offeryn o gwbl, ac fel y byddo y gynulleidfa ar unwaith yn gafael yn y dôn. Gyda hyny, chwareuer yr offeryn yn dyner, fel na byddo ei sain yn boddi lleisiau y gynulleidfa, yna gall y gynulleidfa fyned yn mlaen heb deimlo unrhyw rwystr i ganu. Ond fel y mae yn bresenol gyda llawer iawn o gynulleidfaoedd, mae y canu yn warthus ar ol cael yr offeryn i mewn, tra yr oedd yno ganu da cyn hyny; a thra yr arferir yr offeryn i ddechreu ac i arwain y canu, mae yn rhwym o fod yn fwy o ddrwg nag o dda ; ond os defnyddir ef i gynorthwyo yn unig, yna gall fod o les mawr yn ein cynulleidfaoedd yn gyffredin. A. B. C. Marwolaeth Mr. John Morgan (Towy Alaw).— Rhag. 24, yn 32 oed, bu farw y cerddor llafurus Mr. John Morgan (Towy Alaw), Dinas Bach, ger Llanym- ddyfri. Gadawodd briod ac un plentyn i alaru ar ei ol. Efe a dau eraill o'i frodyr oedd y rhai cyntaf i gael Tystysgrif yn y cymydogaethau hyn—yn agos i ddeng mlynedd yn ol (1864),—pryd yr arholwyd hwy gan y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwijllt) yn Crai, Trecastell. Ond bellach y mae dau (Evan a John Morgan) yn y graian oer, a'r trydydd (Mr. lîees Morgan) yn y gor- llewin pell—Hyde Park, America. Llafuriodd Mr. J. Morgan lawer i sefydlu dosbarthiadau Sol-ffa drwy yr holl ardaloedd o'i amgylch, fel y mae ll'iaws mawr o ddisgyblion iddo ar ei ol yn wasgaredig yma a thraw— (amryw yn America), a bydd yn dda ganddynt weled llinell o goffadwriaeth am dano. Un o'r pethau olaf a wnaeth oedd pasio dau am y Dystysgrit Elfenol, sef Mri. R. Richard, Rhandirmwyn, a M. S. Morgan, Cil- ycwm. Diau y teimlir colled ar ei ol, yn neillduol yn mhlith cantorion ieuainc y Tonic Sol-ffa, ond ni a hyderwn ei fod ef wedi ymuno yn ngherddoriaeth y wlad well.—Ll.