Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH DOSBARTHIADAU Y TONIC SOL-FFA. CERDDORIAETH CYMRU. Ni fu adeg erioed yn hanes Cymru pryd yr oedd ei cherddoriaeth mor uchel ag y mae yn yr adeg bresenol; ac y mae pob peth yn arwyddo mai i fyned ar gynydd yn gyflym y mae yn y blynyddoedd dyfodol. Pa beth oedd sefyllfa cerddoriaeth yn Nghymru yn y cyfnodau gynt, nid oes neb a all ddyweyd. Y mae llen dew yn gordoi hanes y cyfnod Derwyddol; ni wyddys dim am sefyllfa cerddoriaeth yn ein gwlad yn ystod y mil a haner o flynyddoedd cyntaf y cyfnod Cristionogol; ie, hyd yn nod pan yr anadlwyd bywyd newydd i gerddor- iaeth yn yr Almaen, Switserland, Ffrainc, Lloegr, ac Tsgotland trwy y Diwygiad Protestanaidd, y mae tywyllwch Aiphtaidd yn mron yn gorphwys ar hanes yr hyn a wnaed (os gwnaed rhywbeth) yn Nghymru. Mae yn wir y myn rhai hòni fod ein hen alawon cen- edlaethol wedi dyfod i ni o oesoedd pell iawn yn ol; ond ofer yw gwneyd hòniadau o'r fath pryd nad oes genym un math o brawf i'w ddwyn drostynt. Mae yn wir yr argraffwyd ychydig o hen alawon symlion gyda Salmau Édmwnd Prys; ond pa un a ddaeth y Tonau liyny i gael eu canu ar y Salmau sydd bwnc ag nad oes neb, hyd yr ydym yn deall, yn alluog i'w egluro. Ac nid oes genym ond ychydig o oleu, gwanaidd. iawn, ar sefyllfa ein caniadaeth grefyddol na bydol hyd ddechreuad y cyfnod Methodistaidd yn Lloegr a Chymru. Mae yn dra sicr, pa fodd bynag, fod y cyff Celtaidd wedi bod trwy yr oesoedd yn enwog am gerddoriaeth, yn gystal ag am ddewrder i sefyll dros eu gwlad a'u hiawnderau. Ymddengys fod y cyfansoddiad Celtaidd, yn ei wahanol ganghenau, yn ffafriol i gerddoriaeth. Yn Itali, yn Ffrainc, yn Mrydain, ac yn Iwerddon, yr ydys yn cael profion digonol o'r ffaith hon. A pha beth bynag a ddywedir i'r gwrthwyneb gan feirniaid a gwawdwyr na wyddant ddim am y pwnc, mae yn ffaith ddilys a phrofadwy fod yr iaüh hefyd yn fanteisiol i ganiadaeth. Yn wir, byddai haeru fod y genedl o ran cyfansoddiad yn gerddorol, a dy weyd ar yr un pryd fod ei hiaith yn angherddorol, yn myned yn erbyn pob rheswm ac athroniaeth. Dyweded ein cyfeillion y Saeson y peth a ddywedant, y mae yn aros i'w brofi ai nid y Gym- raeg yw y fwyaf perseiniol o holl ieithoedd y Cyfandir,, gyda'r unig eithriad o'r Italaeg; ac am y neTthol, y' cynhyrfus, a'r ardderchog. mae yn amheus a oes un ìaith lafaredig yn Ewrop a all ymgystadlu â hi. 0 ran manteision, yr ydym fel cenedl wedi dioddef yn ddirfawr, gyda golwg ar gerddoriaeth, fel pob peth arall ag sydd a'u tuedd i'n coethi a'n dyrchafu. A pha ryfedd, pan yr oedd ein cymydogion galluog o'r tu arall i'r Clawdd wedi penderfynn ein gwthio ni a'n hiaith a'n pob peth allan o fodolaeth ? Bellach, pa fodd bynag, y mae amser gwell wedi gwawrio arnom. Ni ddaeth yr amser eto i egluro egwyddorion a nerthoedd y cynhyrfiad sydd wedi dwyn hyn oddiamgylch. Digon ar hyn o bryd yw nodi y ffaith. Y mae genym Gymry yn bresenol ag ydynt wedi derbyn addysg o'r dosbarth uchaf mewn cerddor- iaeth, fel mewn pob eangen arall o ddysgeidiaeth; a'r hyn sydd yn fwy pwysig fyth ydyw, fod Cymru yn galw arnynt ac yn rhoddi lle iddynt i weithio yn ngwasanaeth eu gwlad eu hunain, ac nid yn eu hymlid i wasanaethu cenedloedd estronol. Gyda'r manteision pwysig hyn—cerddorion addysg- edig yn ymsefydlu mewn lleoedd pwysig yn y wlad i fod yn ganol-bynciau goleuni a dylanwad cerddorol— Proffeswr cerddoriaeth yn Mhrif Ýsgol Aberystwyth— ysgoloriaethau yn cael eu darparu i feibion a merched Cymru yn yr Ysgpl Gerddorol Genedlaethol yn South Eensington—pobl ieuainc Cymru dan addysg ac yn enill y gwobrau yn yr Academi Frenhinol yn Llundain —Cymry yn sefyll yn y dosbarth uchaf fel cerddorion yn y brif ddinas—gweithwyr Cymry yn hèrio ac yn gorchfygu yr holl fyd mewn cystadleuaeth gorawl—a threfn y Tonic Sol-ffa yn dwyn y plant wrth y miloedd i ddarllen a deall cerddoriaeth—gyda hyn oll, meddwn, y mae yn gweddu i ni godi ac ymy6gwyd, a gwneyd defnydd o'n manteision, fel y dychwelo ein ffrwyth yn foddion gwir fwynhad, coethiad, a dyrchafiad i'n cenedl. Athrofa Gerddorol Kensington.—Dydd Iau, Rhag. 18, gosodwyd i lawr gareg sylfaen yr adeilad sydd i fod yn gartrefle y sef'ydliad pwysig hwn, gan Duc Edinburgh. Yr oedd amryw o gerddorion Llun- dain yn bresenol; a dangosodd y Duc, mewn araeth dda, yr amcanion sydd mewn golwg trwy y sefydUad hwn. Fel y crybwyllasom mewn rhifyn biaenorol, y mae pedair ysgoloriaeth wedi eu sicrhau i Gymru. Yr Academi Freninol.—Deallwn fod y cantoresau ieuainc Miss Mary Davies a Miss Marianne Williams yn dyfod yn mlaen yn llwyddianus, a gelUr disgwyl llawer oddiwrthynt yn y dyfodol.