Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEEDDOR Y TONIC SOL-FFA. 45 CERDDORIAETH CYSTADLEUAETH Y PALAS GWYDR. Motett— "Be not afraid" (I. S. Bach.) Y mae geiriau y Fotet ardderchog hon wedi eu cymeryd o brophwydoliaethau Esaiah, lle mae yr Arglwydd yn cysuro ei was Israel, yr hwn a rag-gysgodai y Gwas etholedig oedd i ddyfod i'r byd i gyüawni holl ewyllys y Tad. Ceir geiriau y symudiad cyntaf yn pen. xli. 10. Mae yr holl gyfansoddiad o nodwedd gysurus; 'a chymorth neillduol tuag at roddi mynegiant priodol i bob rhan o hono fydd cofio pwy yw yr Hwn sydd yn llefaru. I ddechreu, ceir dwy frawddeg sefydlog yn y bas—y gyntaf yn nghyweirnod y Tonydd, a'r ail yn nghyweir- nod y Llywydd—tra mae y rhanau eraill yn ansefydlog a thoredig; fel pe byddai y cyfansoddwr ar unwaith am ddisgrifio sefydlogrwydd a chadernid yr Hwn sydd yn llefaru, ac ansefydlogrwydd, pryder, ac ofn y neb y mae yn llefaru wrtho. Wrth gychwyn, rhaid i'r lleis- iau fod yn ofalus i ddechreu ar haner y curiad. Ar ryw gyfrifon, gwell fyddai curo wyth yn y mesur. Uechreuai y rhanau hyn felly ar yr ail guriad. Ond os curir wyth, rhaid gofalu na byddo yr amser yn rhy araf. Bydd yr un gofal yn angenrheidiol wrth daro holl wahanol adranau y symudiad hwn. Yn mesur 5, ceir y ffigyr bychan hwn, pa un a ail-adroddir gydag amrywiadau yn y mesurau canlynol;— Sop. < J3e n< Bas. ( .d :- Doh A. .s :f,n.r,d | 1 Be not a - fraid, .r,n | de Ehodder yr adran fechan hon yn eglur, a'r cord olaf yn hollol gywir. Yn mesur 10, cychwynircyfres o adranau efelychiad- ol gyda'r ffigyr hwn :— SOP. Bas. ÜOH A. .r :m .r Trem - ble not, : .s,s|t| Yn y ddiwedd-ran hon, yr hon a derfynir yn hapus gyda mesur 28, mae yr awdwr yn trin ei destyn yn dra medrus ac effeithiol; a gwasanaetha oysgodion y modd lleiaf yn banau 20—22, i gynyrchu effaith hynod o ddymunol. Yn mesur 29, y mae bas y cor laf yn arwain i fewn gyÇres o feddylddrychau cerddorol newyddion, ar yr ail ran o'r geiriau, "I strengthen thee." Yn y ddi- weddran hon eto, ceir mesur o'r un peth ag a gafwyd yn yr un flaenorol. Yno rhoddai y cyfansoddwr gadernid a sefydlogrwydd y cynorthwywr ar gyfer ofn a dychryn y cynorthwyedig; ac yma y mae yn gosod cryfder y naill ar gyfer gwendid y llall; ac nid yn unig y mae yma gadarnhau a dal, ond codir i fyny yn mhob adran, a hyny yn erbyn tuedd naturiol gref i aros i lawr. Mae y cryfder a'r codiad yn cael eu teimlo yn barhaus, ac megys yn uwch o hyd na'r disgwyliad. Rhodder yr adranau hyn gyda phwyslais a nerth, a bydded y tonau cromatig, ac yn enwedig ar derfyn yr adranau, yn berffaith bur a diamwys. Ar ol rhoddi alJan y cryfder dyrchafiadol hwn yn yr adranau dis- grifiadol a nodwyd, mae y cerddor yn tori allan yn mesurau 35—40, i gyhoeddi yr addewid mewn ffrydlif o gerddoriaeth fwynhaol, yr hyn a ailadroddir gan yr ail gor yn mesurau 40—44. Mae y testyn bendigedighwn yn dra chyflawn o nerth, ac yn hynod gyfaddas i ostegu cynwrf mynwes bryderus. Y mae haeriadau grymus y bas, yn cael ei gefnogi gan y tenor, yr "uphold" awgrymiadol gan y soprano, a'r diwedJiad yn y modd lleiaf, yn cydweithio i gynyrchu yr effaith fwyaf hapus. Dadblygir a gweithir allan ei wahanol adranau yn y tudalenau dilynol gyda holl fedr a chalon y prif srantor o Leipsic. Y mae wedi cael blas ar yr " uphold" (er- hatfe ydyw ei air ef—cynal, dal i fyny trwy sefyll dan), a meddylddrych ardderchog ydyw—braich cyfiawnder y Duw mawr yn sefyll dan y neb sydd yn eiddo iddo, yn ymroddi i'w wasanaethu, ac yn ymddiried arno. Ÿ mae Bachyn ei ailadrodd gyda nerth a blas ychwanegol bob tro; ond yn mesurau 60—72 y mae yn arllwys allan y meddylddrych goruchel gyda holi nerth ei galon a'i ysbryd. Erbyn dyfod yn mlaen i'r lle hwn, odid na fydd y cor wedi eu trwytho yn ysbryd y gerdd- oriaeth fel y byddant yn barod i roddi y rhanau hyn gyda nerth a thanbeidrwydd, a goreu oll pa fwyaf eglur a llawn fyddo y lleisiau, yn enwedig y soprano yn E, F$ Gj ac A. Ar ol cyrhaeddyd pinacl yr esgyneb ogoneddus hon, ceir ychydig o frawddegau ar yr ymadrodd Cl be not afraid," yn ffurfio cyfwng, neu yn hytrach dolen- gydiol rhwûg y ddau symudiad. Ar ol bod yn datgan yn ardderchog ar wahanol ranau ei bwnc cyntaf, mae y cerddor yn ail adrodd ei destyn mewn trefn i fyned yn mlaen at yr ail symudiad. Yn niwedd mesur 77 dechreuir y symudiad hwnw, pa un, o ran ffurf, sydd fath o ffoal gyrnysgedig. Rhoddir testyn cyntaf allan gan y bas, ar y geiriau, " Then fear thou not." Un haner curiad ar ei ol rhoddir testyn arall gan y tenor, ar y geiriau, " By redemption thou art saved." Atebir hwn gan yralto; ac i'r soprano rhoddir Coral sylfaenedig ar yr hen Goral o waith Iohann George Ebeling, " Warum sollt ich mich dsnn grämen." Y mae geiriau y symudiad wedi eu cymeryd allan o Es. ilii. a xliii., ac y mae y cerddor, yn y dull mwyaf celfyddgar, wedi cyfuno y rhauan trwy eu rhoddi i'w canu ar yr un pryd gan y gwahanol leisiau. Pan ddatgenir gan y naill—