Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 41 CERDDORIAETH CYSTADEUAETH Y PALAS GRISIAL. I. Cydgan.—"Sbe from his post." Cydgan yw hon allan o oratorio Beîshazzar, yr hon a gyfansoddwyd gan Handel yn hydref y flwyddyn 1744, yn y 60fedflwyddyn o'i oedran, ar eir- iau a ysgrifenwyd iddo gan Mr. Jennens, Gopsall, yr hwn, tua thair blynedd cyn hyny, a ysgrifenasai iddo eiriau y Messiah. Testyn yr oratorio yw Cymeriad Babilon gan y Persiaid dan Cyrus, ar y nôs fvthgofiadwy y ceir ei hanes yn llyfr Daniel. Ý noson hono, yr oedd Brenin a thywysogion, swydd- ogion a milwyr Babilon wedi caeí eu dyrysu gan feddwdod a rhialtwch, fel yr anghofiwyd cau y pyrth a agorent i'r afon, o ba rai yr oedd 25 bob ochr, yn arwain o gynifer o heolydd. Llwyddodd Cyrus i droi yr afon o'i gwely i'r Camlesydd y tu allan i'r muriau; ac arweiniodd ei fyddin ar hyd gwely sych yr afon i ganol y ddinas; ac felly y cymerwyd Babilon, ac y bwriwyd hi i lawr o ganol ei mawredd a'i rhwysg, nid i godi byth drachefn. Gwaith yr afon yn troi o'i gwely, ac yn gwneyd ffordd i'r gelynion, ydyw testyn y Gydgan dan sylw. Mae y Persiaid yn ei gweled, yn holi ac Jyn ateb ynghylch ei hymddygiad, ac yn egluro mai nid troi yn anfíyddlawn i'w chadwraeth y mae, ond ei bod yn ìhoi ufudd-dod i Allu uwch ; a therfyna gyda'r wers—Mai o bob peth ar y ddaear, dyn yn unig sydd yn anflyddlawn a bradwrus. Iddechreu, mae y Persiaid yn gweled yr afon, fel swyddog a osodasid mewn lle pwysig i wylio y ddinas, yn ymadael ac yn ffoi. Rhaid i'r soprano fod yn bur a hollol gydseiniol wrth ganu y testyn maith o chwe' mesur a roddir allan yn m. [8—13, a bod yn dra gofalus i seinio pob nod yn y llithreni yn eglur. Gofaler rhag yr arferiad o lusgo ar hyd y llithreni. Ceir ail-adroddiad o'r testyn hwn mewn çyweirnod arall, yn dechreu yn m. 14, gydag amcan i ychwanegu yr effaith, gan roddi gwahanol fraw- ddegau y testyn i wahanol leisiau i'r diben o alw a chynhyrfu sylw arbenig at yr olygfa. Yn m. 31, curiad 3, gofaled y Bas am gychwyn (rhan o'r testyn blaenorol) a'r Tenor am yr atebiad yn y mesur nes- af, mewn amser ac ysbryd priodol. Gyda dygiad i jfewn y stretto yn m. 50, gellir rhoi ychwaneg o perth. Yn y ddwy Haner-Cydgan, bydd yn angen- jîheidiol wrth farn a chwaeth yn netholiad y rhai a iroddir i farnu y gwahanol leisiau. Merched gyda ileisiau pur a thonyddiaeth dda i ganu y ddau Jj^H a merched gyda lleisiau dyfnion i ganu yr |Alto. Yn yr ail Haner-Cydgan, os na ellir cael digon o ferched, gellir rhoddi dynion mewn oed (nid bechgyn bychain ar un cyfrif) gyda lleisiau tyner, ac wedi ymarfer yn y Rhestr Deneu, i ganu yr ail Alto. Rhaid gofalu am fod y cwbl yn hollol bur, ac yn cyfuno yn berffaith o ran tonyddiaeth. Dyna y prif bethau i ofalu am danynt yma. Y peth pwysig arall yw gofalu am i'r brawddegiad (phras- ing) fod yn eglur a synwyrol. Prin y mae eisieu dweyd wrth Solffayddion ám ofalu am f yn y trebl cyntaf; oblegyd nid yw yn brofedigaeth iddynt hwy, fel yr Hen-Nodyddion, i ganu hon yn fe yn y modd lleiaf. Caner yn dyner, gydag aceniad, pwys- leisiad, a brawddegiad da. Gellir cryfhau gyda'r ail linell yn yr ail Haner-Cydgan, " But to divine decree," a chanu y ddwy olaf (a'r olaf oll yn ar- benig) yn gryf. Bydd gofal yn angenrheidiol o hyn ymlaen, pan y cana y ddwy Haner-Cydgan ynghyd ar fod y traws-gyweiriadau yn cael eu gwneud yn hollol glir a diamwys. A thra mae y naill Haner- Cydgan yn holi yr afon, gyda gradd o arswyd yn gymysgedig a phryder gobaith am fuddugoliaeth, a'r llall yn esbonio, gyda sobrwydd, yr ymyraeth dwyfol sydd yn yr achos, bydded fod y brawddegiad yn hollol eglur, a thonyddiaeth y gwahanol leisiau yn bur a chydseiniol. I gerddorion gofalus, nid oes yma ond ychydig o anhawsder yn y darlleniad, Wrth gwrs, rhaid bod yn ofalus wrth symud o F (modd Lah) i C (modd Lah) ac vn ol- Terfyna y symudiad hwn gyd diweddeb Tonyddol p (modd Lah). Cychwyna y Gydgan ddilynol yn Bf> (modd Doh); a rhaid bod yn ofalus a phwyllog gyda'rnewiadad. Byddeisiaumanylrwyddasefydlog- rwydd hefyd gyda chychwyniad y ddau lais, yma yn y dechreu, yn gystal a'r lleoedd eraill yn nes yn mlaen yn y rhai y dygir yr un testyn i fewn. Daw yr ail lais i fewn ar y 3ydd curiad ar ol y cyntaf. Cenir y Gydgan yn fywiog : Allegro ma non troppo— yn gyflym, ond nid yn ormodol felly. Nid clodforus ddylai fod yr oslef, ond grymus a haeriadol. Gof- aler am y disgyniad o 8fed yn y fynedran hon :— | s : si. s | s. t : 1 . s 11 Ceir ail-adroddiad o honi ar bob cyfrwng o'r raddfa yn mron; ac nid hawdd iawn ydyw y disgyniad o 8fed mewn rhai o honynt. Ymddengys fel pe bu- asai gan Handel amcan i roddi darluniad mewn seiniau o anffyddlondeb neu dwyll yn y disgyniadau hyn, y rhai nis gellir rhoddi dim pwys arnynt, tra mae y tonau estynedig a chydbwysol yn y gy- nghanedd megys yn dynodi parhad a gwrthdarawiad yr anian dwyllodrus. Gofaler am i'r anghydseiniaid hyn gael eu priodol effaith ar y sill gyntaf o'r gair "falsehood."