Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC ÖOL-FFA. 33 ÜNDEB CERDDOROL OLANAU YSTWYTH AC WYRE. Stb>—Meddaf yn. awr yr hyfrydwch o anfon cyfran o ffrwyth llafur yr Undeb uchod yn y tymor diweddaf i'r Cerddor, er dangos i'r oesau a ddaw weithgarwch ac ymdrechion yr oes hon gyda'r gangen wertbfawr yma o wybodaeth, a chalonogi y llafurwyr eu hunain i gyr- haedd tir uwch a pherffeithiach ynddi, ynghyd a grym- uso tueddfryd amddiffynwyr a chefnogwyr yr Undeb i gynyddu yn eu eel a'u ffyddlondeb dros lwyddiant y sefydliad sydd eisoes gwedi dechreu gweithio mor dda yn eu plith. Cefais weledigaeth eglur fod yn yr Undeb hwn amrai, er yn hen mewn dyddiau, a gyfaddaswyd a gras i "synied y pethau " a fwriedir gyfranu i'r eglwysi a'r cynulleidfaoedd trwy yr Undebau cerddorol. Yr j wyf mewn profedigaeth i roddi clod i'r gwyr canol-oed a'r hen bobl (yn hytrach i Dduw y bo'r clod), am ddyfod allanmorbleidioliaddysggerddoroly dosbarth ieuainc, a chefnogi'r moddion a dueddant i ddiwygio y canu cynulleidfaol. Nis gall dim ond gras neu synwyr cyffredin cryf ddwyn hen bobl i gydymffurfio a sefydl- iaclau newyddion. Ceir ambell un mor amddifad o'r naill a'r llaü o'r doniau hyn, fel y cyfyd ei oernadau daroganlhd yn erbyn sefydliadau, hyd ynnodpanfydd euharwyduair "gwnawn ddaioni" wedi ei ysgrifenu mewn llythyrenau breision, fel y gellid eu darllen wrth lewyrch gwan y lloer. Dilys yw fod yr Undebau cerddorol a sefydlwyd yn ddiweddar yn y sir, arannog- aeth y Cyfarfod Misol, a'u dybenion yn amlwg i'r neb a fyno weled; ac nid oes dim ffrwyth drwg, hyd yn hyn, gwedi eodi arnynt i achosi'r ddincod ar ddanedd neb. Ý mae pob capel, o fewn terfynau Cyfarfod Misol y Ehan Uchaf, yn perthyn i ryw Undeb cerddorol, oddi- gerth Bethel. flyderwn nad yw y cyfeillion hyn yn eu dallineb yn tybio fod sefyllfa yr achos yn foddhaol yn euplith. Bydded iddynt ymgalonogi; y maent ar dir y gallant fod yn welí, yr hyn sydd yn gymhwysder nodedig ynddynt i daflu eu hunain i'r cylch. " Nid rhaid i'r iach wrth feddyg." Trwy ryw gamddealldwr- iaeth, nid aethom heibio i Penrhiw. Clywais fod y cyfeillion yn dysgwyl arnom i alw yno, ar yr amod i'r wyntyll fod yn ddigon pell. Hyderaf y ceir toraeth da o rawn pur yn Penrhiw y tymor nesaf. Saif arholiad yr Undeb hwn yn y modd a ganlyn :— Rhif y rhai a gymerasant y Dystysgrif Elfenol: Rhyd- Iwyd, 15, athraw, Mr. B. Davies; Carmel, 10, athraw, Mr. D. Lewis ; Gosen, 12, Jun. S. Cert., 8, atlíraw, Mr. D. Lewis; Blaenplwyf, 11, athraw, Mr. J. Vaughan; Ehm, 8, Jim. S. Cert., 5, athraw, Mr. Thos. Davies; Tabor, 10, Jun. S. Cert., 1, athraw, Mr. D. James; Bhiwbwys, 15, Jun. S. Cert., 2, athraw, Mr. J. James; Horeb, 6, Jun. S. Cert., 2, athraw, Mr. Mr. Daniel ẁnes, Aberystwyth. Cafodd yr Uudeb hwn golled ddirfawr yn marwolaeth %wydd Pwyllgor yr Undeb y flwyddyn ddiweddaf, sef y brawd anwyl a ffyddlon, Mr. William Herbert, Lled- rod, yr hwn a fu yn Uafurus iawn dros ei oes gyda holl îanau y gwaith da, yn neillduol felly gyda'r canu. Yr oedd yn un o'r rhai goreu fel arweinydd canu cynull- eidfaol yn y sir—yn ei lais tyner a theimladwy, ei arddull syml a chrefyddol, heb ymgais ynddo at y cormc a'r ymddangosiadol, ae yn arbenigol yn ei fedrusrwydd i wneyd ieuad cydmarus rhwng y gair a'r don, yr hyn sydd yn ddawn uchel yn mhob arweinydd canu a'i medd. Gobeithio na ddyg y golled hon wan-galondid, fel ag i'n cyfeillion laesu yn eu hymdrechion; ond i'r gwrthwyneb, eu gwneyd yn fwy egniol a selog dro3 achos yr Hwn sydd yn aros yr un yn ei ffyddlondeb i'w cynorthwyo dan bob cyfnewidiadau. John Owen. Blaenpenál, Awst 15, 1873. UNDEB CERDDOROL DOSBARTH CYNON. Cinaliwyd cylchwyl gyntaf yr Undeb uehod yn y Dyffryn, Coginan, y 26ain o Fehefin, dan arweiniad y Parch. J. Eoberts {leuan Gwyllt). Cafwyd cynulliad pur dda, yn enwedig yn y prydnawn a'r nos, a diameu genyf y buasai yn llawer lluosocach ©ni bai am y gwlaw yn y boreu. Caed cylchwyl foddhaol ar y cyfan, ao ystyried mai hon oedd y gyntaf. Disgwylir y bydd y nesaf yn well. Y tonau a ganwyd oeddent:—Erfyniad, Malvern, Siloah, Trefeglwys, Patmos, Bethesda, M^or- iah, St. John, Mendelssohn, ac Ardudwy, ynghyd a Psalm 46, a'r anthem O deuwch i'r dyfroedd (Eos Llechid). Canwyd rhai o'r tonau yn dda, eraill heb fod cystal a'n disgwyliad. Buasem yn caru gweled y sopranos yn fwy penderfynol ac annibynol ar bawb o'u deutu wrth ddechreu y rhan fwyaf o'r tonau. Yr oedd llawer o honynt, os nad y rhan fwyaf, gallem feddwl, wedi arfer dibynu mwy ar glywed llais eu harweinydd, nag ar weled ei law. Yr oedd hyny yn effeithio tipyn ar y canu yn y gylchwyl—yn peru fod dechreu rhai o'r tonau yn aneffeithiol. Gobeithio y bydd i'r Undeb fyned yn y blaen ac ymberffeithio ; y mae tir lawer eto i'w feddiannu. Yr oedd yn dda genyf weled yr ymdrech oedd wedi bod yn yr Undeb, yn ystod y gauaf diweddaf, i ddysgu darllen cerddoriaeth yn ol cyfundrefn y Tonic Soí-ffa, ynghyd a'r llwyddiant sydd wedi dilyn yr ymdrech hwnw i raddau helaeth. Llwyddodd cryn nifer i gyr- haedd y Dystysgrif gyntaf, ac amryw yr ail; ond gall- esid disgwyl llawer rhagor i gymeryd Tystysgrifau. Yr oedd ol llafur i'w ganfod mewn rhai lleoedd o'r dosbarth, a lleoedd eraill nad oeddwn yn gallu canfod ond ychydig o lafur yn y cyfeiriad hwn. Y nifer a gyrhaeddodd y Dystysgrif Elfenol yn yr lioll ddosbarth oedd 44, o'r lleoedd canlynol:—Rhiw- felen, 3 ; Trisant, 3 ; Aberffrwd, 4; Cynon, 4; Ehydy- fagwyr, 3; Blaencwmrheidol, 4; Capel Seion, 8; Dyffryn, 6; Ponterwyd, 5; Blaenrheidol, 1; a Cwm- ergyr, 3. Y nifer a gyrhaeddodd yr ail Dystysgrif oedd:—Aberffrwd, 5; Cynon, 3; Capel Seion, 2; Blaencwm, 1; Dyffryn, 1; a Ponterwyd, 4. M fu neb yn cynyg am yr un o'r ddwy Dystysgrif o'r lleoedd can- lynol oedd yn perthyn i'r Undeb :—Mynach, Ehosygell,