Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 29 GWERSI CYSTADLEUAETH Y PALAS GWYDR. y pen diweddaf yn mhregethau hen bregetliwyr da yr oes o'r blaen ydoedd—" Gwelwn oddiwrtb yr byn a ddywedwyd." Y mae arnom ninau flys i'w hefelychu, a galw ein darllenwyr am fynyd yn y lle hwn i weled oddiwrth yr hyn a welwyd ae a glywyd yn y gystadleu- aeth fawr yn Sydenham. Ni a welwn, yn y lle cyntaf, y mawr nertb sydd mewn JJndéb a Phenderfyniad. Gwyr pawb—y mae y cryfaf ei ragfarn yn erbyn y Cymry a phob peth Cymreig yn eorfod addef—fod llawer o dalent a theimlad cerddorol yn y Cymry. Dywedir wrtbym gan lawer o ddynion gwybodus a chraffus nad oes dim mwy o gerddoriaeth ynnaturiol a chynhenid mewn un genedl yn Ewrop. Önd er yrholl allu hwn, mae yn hollol sicr na fuasai Cor Cymreig yn enill y fath fuddugoliaetb oni buasai am y brwdfrydedd a'r penderfyniad oedd wedi eu cylymu yn un corpb, ac wedi eu cadw mewn undeb a ehydweithrediad am gymaint o amser i ymddarparu. 3Iae yr hen air yn yr amgylchiad bwn mor wir ag y bu erioed—" Mewn Undeb y mae Nerth." A byddai yn dda genym i gantorion Cymru rodJi y wers bwysighon yn nes at eu calonau nag erioed. Er fod yn ein gwlad dalent a gallu cerddorol o'r radd uchaf, y mae ein gwlad yn rhy fechan i'w rhanu, yr ydym yn rhy ychydig i'n chwalu. Ein bymraniadau sydd wedi bod bob amser yn wendid ac yn ddinystr i ni. Tra byddai ein henafiaid yn gytun, ni byddai digon o nertb mewn Rhufeiniwr na Saxon i'w darostwng; yr oedd gobaith y gelyn bob amser yn ymraniadau y Cymry. Ymae yr un petb yn wir hyd y dydd hwn. Pe gellid ein rhwymo a'n tylino yn un corpb, ac anadlu trwy esgyrn a cby- hyrau yr un corph líwnw anadl a brwdfrydedd un hywyd, ni allai un genedl yn Ewrop sefyll yn bir o'n blaen ar y maes cerddorol, nac ar un maes arall. t'welwn yn nesaf ncrth ac effeithiolrwydd cyfundrefn y Tonic Sol-ffa. Nid ydym yn ymofyn yn bresenol i ba raddau y mae Mr. Willert Beale yn ddyledus i'r Sol-ffa a'r cystadleuaethau Cymreig am y meddylddrycb 0 gystadleuaeth genedlaethol yn y Palas Grisial; ond y mae yn sicr y buasai cario y meddylddrych allan yn gwbl ambosibl oni buasai am y Tonic Sol-lfa. Yn y iíystacueuaeth fawr, yr oedd un o'r corau yn gyfansodd- jjf"8 yn gyfan-gwbl o Sol-ffayddion—wedi cael eu uysgu, eu dwyn i fyny, a'u perffeithio yn hollol trwy y pfundrefn hono; ac am y Cor Cymreig, y mae yn hj'Bbys fod nifer fawr o'i aelodau—yr haner o leiaf, yn gyfarwydd yn y Tonic Sol-ffa, a llawer o honynt wedi ûysgu yn gyfan-gwbl yn ol y gyfundrefn hono ; ac yr ìfi'm yn meddwl y buasai cynull y cor hwn, a'i ddwyn jr tatb sefyllfa o berffeithrwydd, yn amhosibl oui Oai arn y llafur lawer sydd wedi bod yn y blynyddoedd aaeth heibio gyda'r Sol-ffa. Mae yn wirionedd saf- j ^y~~er fod llawer na fynant ei ddeall na'i gydnabod, oaJ üafur gyda'r Tonic Sol-ffa wedi gwneyd mwy na dim arall tuag at ddŵyn cerddonaetb i'w sefyllfa bresenol yn y Dywysogaeth. Am y cystadleuaethau eraill, yr oedd dau o dri o'r corau yn Sol-ffayddion proffesedig. Sol-ffayddion digymysg oedd corau Step- ney a Deheubarth Llundain, y rhai a ganasant mor ragorol ddydd Mawrtb ; Sol-ffayddion oedd dau o'r tri chor gwrrywaidd a ganodd mor arddercbog ddydd Iau; ac yr ydym yn tybied fod cyfartaledd mawr o'r corau eraill yn ddyledus i'r gyfundrefn bon. Mae yn amlwg i ni felly mai mewn cysylltiad a'r Sol-ffa y mae mwyaf o fywyd a llafur gyda cberddoriaeth trwy yr holl wlad ar y pryd presenol; a hyderwn mai yn mlaen yr a y cynhyrfiad effeitbiol bwn, hyd nes delo holl drigolion ein gwlad yn gyffredinol i fedru mwynhau a theimlo yn ddeallgar y dylanwadau nerthol sydd yn perthyn i gerddoriaeth. Petb arall a welwn ydyw y dymunoldeb a'r angen- rheidrwydd o ymarfer a cherddoriaeth bur a dyrchaf- edig, gan ymgadw yn fanwl oddiwrth y llygredig, y gwagsaw, a'r arwynebol. Yr oedd yn dda genym weled y chwaeth goethedig a amlygwyd yn holl gerddoriaeth y gystadleuaetb hon; ac nis gallai neb o chwaeth dda lai na mawr gymeradwyo y symledd a'r gweddeidd-dra a ddangosid yn yr boll weitbrediadau. Yr oedd graddau o wabaniaetb rhwng y datganwyr—rbai yn arfer mwy o ystumiau ac action na'r lleill; ond nid oedd neb yn myned i raddau eitbaf©l; ac yr oedd yn ddigon amlwg nad oedd neb yn enill dim trwy hyny. Yr oedd yr arweinyddion, ar y cyfan, yn gwneud eu gwaith yn syml. Yn syml iawn, beb nemawr o dwrw nac ystum- iau, yr oedd Caradoc yn arwain Cor y Deheudir; a ffolineb fuasai i neb geisio eu harwain yn wahanol. Diffyg barn a chwaetb mewn arweinydd ydyw ceisio galw syiw y bobl ato ef ei hun. Arferai Mr. Proudman fwy o ystumiau, a rhoddai fwy o lafur arno ei hun; ond nid ydym yn gwybod ei fod ef na'i gor yn enill dim trwy byny. Bydded y syml, y dirodres, y pur, a'r dyrchafedig yn dyfod i fwy o fri, ac yn taflu allau y gwag, yr arwynebol, a'r ymddangosiadus yn ein givlad. Y peth arall a nodwn ydyw mor anhawdd ydyw ym- ysgwyd oddiwrth deimladau eiddigeddus a rhagfarn, a rhoddi barn deg ar bob peth yn ol ei deilyngdod. Gwelsoni hyn mewn modd arbenig yn y Wasg Seisneg, a cbawsom ryw fesur o bono hefyd yn meirniadaeth y Cymry. Y llynedd, yr oedd Argraffwasg Llundain yn siarad yn ffafriol am y Cor Cymreig; eleni, pryd yr oedd y cor, yn ol addefiad pawb, wedi ei greu o'r newydd trwy lafur ac ymarferiad, ac 3rn cauu yn anbraethol well nag y canai y llynedd, yr oedd yn rhaid ceisio ei ddiraddio, neu ynte basio heibio iddo fel peth heb fod yn werth sylw o gwbl. Y llynedd, yr oedd wedi rbedeg dros y cwrs heb un cydymgeisydd ; ond eleni, yr oedd ymdrecbfa galed wedi cymeryd lle, a'r Cor Cymreig wedi curo Llundain; ac feíly trwy fod balchder y Saeson wedi ei archolli, nid oedd dim i'w wneyd ond ceisio taflu sarhad ar y buddugwyr. Ond rbyfedd fyth y cyfnewidiad a gymerodd le ar ol yr ymweliad a'r Tywysog yn Marlborougb House. Ar ol byny, mae yr iaith Saesneg megys yn pallu am eiriau digou cryfion i osod allan ragoriaetbau y Cor Cymreig.