Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 21 CANTOEION NEGROAIDD Y JUBILI. Daeth i Lundain yn nechreu y mis diweddaf fintai o gantorion Negroaidd, ar y neges o orphen Casgliad ar- dderchog o £14,000, sydd ar droed ganddynt tuag at sefydlu Coleg, neu Neuadd, rr gweinyddu addysg i'r negroaid, mewn cysylltiad a Phrif Ysgol Fisk, yn Tennesse, America. Bydd yn ddyddorol gan ein darllenwyr gael ychydig o hanes y fintai hon. Y mae yn cael ei gwneyd i fyny fel y canlyn :— 1. George L. White.—Mr. White ydyw arweinydd y fintai. ac y mae yn un o'r prif athrawon yn y Brif Ÿsgol. Ganwyd ef yn Nhalaeth New York, yn y fl. 1838. Gof oedd ei dad, ond yr oedd yn feddianol ar ddawn i ganu. Cafodd George ei gadw yn yr ysgol hyd nes oedd yn 14 oed. Wedi_ hyny, bu raid iddo ymladd ei ffordd am waith a bywioliaeth. Wedi bod gyda gwa- hanol orchwylion, ac yn gwasanaethu yn y rhyfel, efe a aeth i ysgol Fisk, a gweithiodd yn mlaen hyd nes y cyrliaeddodd ei safle bwysig bresenol. Yno y dechreu- odd efe ffurfio ei Gor Negroaidd. 2. Ella Sheppard—Ganwyd hon yn y fl. 1851, o rieni caethion yn nhalaeth Mississippi. Prynodd ei thad ei hun yn rhydd am 1800 o ddoleri. Cynygiodd brynu ei wraig, ond cyn fod y cytundeb wedi ei arwyddo, newidiodd ei meistr ei feddwl, a bu raid iddi aros yn y caethiwed. Ni welodd ei merch hi ond unwaith bytn ••vedi hyny, o herwydd aeth ei thad drosodd i Ohio, a pliriododd wraig arall. Cafodd ychydig o addysg gerddorol, a dysgodd chwareu ar y piano; ac wedi myned trwy lawer o gyfyngderau, hi a aeth i Brif Ysgol Fisk. Hon yw pianyddes y fintai. 3. Eliza Walrer.—Ganwyd hi yn agos i Nashville, Tennesse, yn y fl. 1857, o rieni caethion. Ar ol ei rhyddhau, hi aeth i ysgol Fisk, yn 1866, ac arosodd yno gymaint o amser ag a fedrai hyd 1870. 4. Thomas Rutling.—Ganwyd ef yn y coed, lle byddai ei fam yn fynych yn ffoi, er dim a wyr efe yn amgen. Dywedir ddarfod iddo gael ei eni yn Ten- nesse, yn y fl. 1854. Y peth cyntaf y mae yn ei gofio ydyw ei fam yn cael ei chwipio, a'i gwerthu i fyned yn mhellach i'r Deheu ; a'r newydd diweddaf a glywodd am dani, pan tua phedair oed, oedd ei bod wedi cael ei chwipio yn agos i farwolaeth. Gwcrthasid ei dad cyn ìddo ef gael ei eni. Yr oedd iddo frawd ac wyth o chwiorydd, ond nid yw yn gwybod dim o'u hanes. Bu yn gweithio yn galed yn y blanhigfa, ond yr oedd ei teistres yn llecl dyner o hono. Wedi dyfod yn rhydd, daeth i ysgol Fisk, ac yno, yn gweithio ac yn dysgu fel y gallai, yr arosodd hyd nes cychwynodd y fiutai i'w 1]ynt gerddorol. .£• Benjamin M. Holmes.—Ganwsd ef "yn Medi i946neu 1848." Prentisiwyd ef yn ddilledydd pan nad oedd ond bychan iawn. Erbyn 1860, yr oedd wedi Qy?gu darllen yn dda. Yn 1862, pan oedd ei berchen- ogion yn ewyllyaio ei gymeryd ef ac eraill o Charloston ganol y wlad, efe a wrthododd, a gwerthwyd of i gaethfasnachwr. Gwerthwyd ef droion wedi hyny, a gwelodd lawer o galedi; ond yn 1863, cfe a aeth i wasanaeth Jefferson Davis. Ar ol dyfod yn rhydd, efe a aeth i ysgol Fisk, yn 1868; ac y mae wedi bod ar ol hyny yn cadw ysgol. 6. Jennie Jackson.—Yr oedd ei thaid yn gaethwas a gweinydd i'r Cadfridog Jachson; ond rhoddodd mam ei meistres ei holl gaethion yn rhydd cyn ei geni hi, ac felly hi a gafodd ei geni yn rhydd. Bu yn gweithio yn galed, gyda'i mam ac mewn gwasanaeth ; wedi hyny hi a fu gyda'i mam yn golchi yn y boreu ac yn dysgu darllen, &c, yn y prydnawn. Ÿn 1866, hi a aeth i ysgolFisk; ond byddai raid iddi fyned adref yn fyn- ych i enill arian i'w chadw. 7. Minnie Tate.—Ganwyd hi yn Nashville, yn 1857; ond yr oedd ei thad a'i mam wedi cael rhyddhad cyn ei geni. Cawsai ei mam addysg mewn sefydliad Ellmynig yn Tennesse; a chafodd hithau addysg dda gan ei mam cyn myned i ysgol Fisk. 8. Maggie Porthr —Ganwyd hi yn 1853. Yr oedd gan ei meistr tua dau gant o gaethion. Ni chafodd lawer o driniaeth arw. Pan ryddhawyd hi yn 1865, hi a aeth i'r ysgol, lle yr oedd o dri i chwe chant o bobl dduon yn dysgu eu gwersi. Ar ol bod yn yr ysgol am ddwy flynedd, hi a aeth i gadw ysgol ei hun, a chafodd driniaeth angharedig oddiwrth ddynion gwynion wrth geisio dwyn yn mlaen ei hysgol i blant duon mewn gwahanol leoedd. Aeth i Brif Ysgol Fisk i gymeryd rlian yn natganiad yr Oratorio Esther. 9. Isaac P. Dicrerson.—Ganwyd ef yn y fl. 1850. Yr oedd ei dad a'i fam yn gaethion. Y mae yn cofio am ei dad yn cael ei werthu, a bu farw ei fam pan oedd efe tua phump oed. Cymerwyd ef yn garcharor yn y rhyí'el, ond diangodd ei feistr ar farch cyflym. Ar ol ei ryddbad, cafodd waith caled i ymrwyfo yn mlaen. Bu yn gwasanaethu mewn gwahanol sefyllfaoedd; ond o'r diwedd daeth i Ysgol Fisk. Cymerodd ran yn Oratorio Esther, a chynrychiolai Ilaman. 10. Greene Evans.—Ganwyd ef yn y fl. 1848; acyr oedd gan ei berchen tua haner cant neu dri ugain o gaethion eraill. Yr oedd ganddynt 23 o blaut, o ba rai nid oes ond wyth yn fyw. Yn amser y rhyfel, efe a ymunodd a phobl y Gogledd; ac ar ol b d mewn gwas- anaeth yma a thraw, yn 1868 efe a aeth i Brif Ysgol Fisk. Ar ol bod yno am beth amser, yn gweithio ac yn dysgu, efe a aeth i gadw ysgol. Dychwelodd drachefn am ctymor i'r ysgol, a thrachefn i gadw ysgol. 11. Julia Jackson.—Ganwyd hon mewn caethiwed, ac ni wyddys yn hollol yn raha flwyddyn ; ond prynodd ei mam hi pan oedd yn fechan am dri chan dolar. Ar ol bod mewn gwasanaeth yma a thraw, yr oedd wedi cynilo digon o arian erbyn 1869 i fyned i'r ysgol. Arosodd yno, gyda chymorth ei brawd, am ddwy flyn- edd. Wedi hyny, dechrcuodd gadw ysgol ei hun. 12. Josephine Moor.—Ganwyd hi yn 1857 ;_ac yr oedd ei thad a'i mam yn gaethion. Arosodd ei thad yn yr un lle ar ol ei ryddhau; a phan oedd hi yn 15 oed, rhoddo.ld merch ei mei^tr blaenorol wersi iddi mewn cerddoriacth. Aeth i ysgol Fisk ar ei chychwyn- iad, a bu am beth amser yn cynorthwyo yr athraw mewn cerddoriaeth.