Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEBDDOR Y TONIC SOL-FFA. 13 GWAITH Y TAFOD. (Parhad o tu dal. 9.) Y mae gwaith y tafod yn ngwasanaeth y teimlad, neu y galon, yn ymranu yr un modd i dri dosbartli. Y dosbarth cyntaf ydyw, cerddoriaeth ag sydd yn gwasanaetbu i deimladau cyffredin plant dynion fel aelodau o gymdeithas. Nid oes ond ychydig naaddef- ant fod gan gerddoriaeth ddylanwad mawr ar galonau dynion ; ond dichon fod Uawer beb ystyried gwirionedd arall, sef fod cerddoriaeth wedi ei bwriadu i wasanaethu i bob teimlad ag sydd yn perthyn i'r galon ddynol. Mae y diafol wedi canfod y pwnc hwn er yn foreu iawn, ac wedi gwneyd defnydd da—rhy dda, ysywaeth, o hono i ddwyn ymlaen ei achos ei hun. Ond y mae pleidwyr daioni a rhinwedd yn mhob oes wedi bod yn rhy araf i ymafaelyd ynddo. Teimlir awydd canu ar y forwyn wrth odro, y bugail wrth borfau ei wartheg a'i ddefaid, yr aradrwr wrth ddilyn ei geffylau, y morwr wrth drin rhaffau ei long. Yn wir, yn mha sefyllfa bynag y byddo dyn, y mae cerddoriaeth i wasanaethu arno megys un wedi ei feithrin gydag ef. Ond wrth edrych a chwilio nis gallwn lai na galaru wrth weled y diffyg mawr a phwysig sydd yn y cyfeiriad hwn yD marddoniaeth a cherddoriaeth ein gwlad. Yn y rhan hon o faes cerddoriaeth, gellid meddwl nad oes dim yn deilwng i'w ganu ond serch meibion a merched tuag at eu gilydd, a hoffder dyn at wlad ei enedigaeth. Addefwn yn rhwydd fod y teimladau hyn yn gryfìon. Yn wir, y maent, a dylent fod, y teimladau cryfaf sydd yn perthyn i'r fynwes ddynol mewn cysylltiad agwrth- ddrychau y ddaear. Tlawd iawn ydyw y galon sydd heb fesur helaeth o'r naill a'r llall. Y mae hen linc a fedr edrych yn oer ac angharuaidd ar holl ferched Efa yn wrthddrych i dosturio wrtho; ac am y dyn neu y ddynes, tlawd neu gyfoethog, a fedr deimlo yn anghar- edig tuag at, a siarad yn ddirmygus am, y wlad a'i wagodd, na ddeled ein henaid i'w cyfrinach. Ond er addef fod y rhai hyn yn wythenau cryfion, cyfoethog, ag y dy lai y bardd a'r cerddor eu gweithio, a dwyn allan eu goiudoedd at wasanaeth ei genedl, yrydym ynhaeru nad ydynt ond dwy allan o liaws aneirif ag sydd wedi eu trysori gan y Creawdwr yn yr un maes. Y trueni mawr ydyw, nid fod ý rhai hyn yn cael eu gweithio, ond mai y rhai hyn a weithir ymron yn hollol, tra y gadewir ÿ lleill ymron i gyd heb eu cyffwrdd. Y mae yn resyn, ar yr un pryd, fod y rhai hyn yn cael eu gweithio yn fynych fel y maent—mor amhriodol ac arwynebol. Mae yn amlwg wrth y caneuon a geir ar y pethau hyn, nad ydyw y rhan fwyaf o lawer o'r rhai a ganant yn aeall nac yn teimlo dim oddiwrth gysegredigrwydd eu testynau, nac yn alluog i dreiddio i mewn i'r golud- oedd sydd ynddynt. Os ydym i gael "caneuon serch," a ydym i ddeall fod y mwnglawdd wedi ei lwyr weithio allan, neu ynte paham yr ydys yn aii nyddu yr un hen ymadroddion yn dragwyddol ? 0 ba le hefyd y daeth îod meibion a merched ein gwlad yn ymddangos ar esgynloriau cyhoeddus i ganu yn fynych yr hyn y mae uedneisrwydd, teimlad anrhydeddus, a chwaeth buryn !rWym o'i gondemrjio ? Megys na all dyn gellwair a fcüan heb fod mewn perygl o losgi, dywedwn fod y gofal manylaf a'r chwaeth fwyaf coethedig yn angenrheidiol i ganu caneuon serch mewn cynulliadau cyhoeddus, heb wneyd llawer mwy o niwed nag o ddaioni. Ond i adael y canghenau hyn, pa le mae y bardd a'r cerddor a anturia ar y canghenau eraill, ac a gyfoeth- oga einhiaith a'n gwlad a chaneuon moesol, chwaethus, addysgiadol, a tharawiadol, o'r fath ag a fyddant yn gyfaddas i'w canu ar yr aelwyd, yn y beudy, ar y maee, ac ar y mynydd ? Pwy a rydd dafoä a sain i'r myrdà o deimladau sydd yn meusydd dyddorol y fam, y ferch, y plentyn, y forwyn ? Pwy a egyr y eoffrau fyrdd sydd yn ymyl, ond yn glöedig rhag, yr arddwr a'r bugail ? Pwy a hulia i'r chwarelwr fwrdu ar ddanedd y graig, ac a arlwya i'r mwnwr a'r glöwr wledd yn nglianol eu llychlyd ogofau ? Y mae ychydig, mae yn wir, i'w cael. Gallem gyfeirio at rai caneuon o'r fath ag ydynt yn hollol at y pwrpas dan sylw. Ond y mae eisie'u ìlawer iawn ychwaneg o honynt; ac y mae eisiau i n hathrawon a chynllunwyr ein cyfarfodydd wneyd llawer mwy o ddefnydd o'r hyn sydd i'w cael. MR. HULLAH A MR. CÜRWEN. NlD yn annaturiol, mewn un modd, y teimlai Mr. Cur- wen a chyfeillion y Tonic Sol-ffa wrthwynebiad cryf i benodiad Mr. Hullah yn arolygydd cerddoriaeth yr ysgolion dyddiol. Yr oedd y penodiad yn un anffodus —yn un na ddylasai gael ei wneyd ; a dylesid chwilio am ddyn mwy canolog, yr hwn fuasai yn deall y ddwy gyfundrefn, ac yn berffaith rydd i roi pob chwareu teg i'r naül yngystal a'rllall. Gobeithid ht y pryd, er yr ofnid yn wahanol, y buasai efe yn rhoddi yramddiffyn- wr o'r neilldu, ac yn gwisgo y barnwr. Efallai ei fod yn gwneyd felly ; ond y mae yn sicr mai nid heb achos y cwyna Mr. Curwen eto j7n erbyn y modd y mae Mr. Hullah a'r llywodraeth yn ymddwyn yn y mater hwn. Mae yn ffaith fod y cop'iau o'r gerddoriaeth yny Sol- ffa a ddefnyddiodd Mr. Hullah yn yr arholiadau yn amherffaith iawn, ac heb fod yn y drefn a arferir gan Mr. Curwen. Y mae yn ffaith hefyd fodyllywodraeth wedi gwrthod gadael i Mr. Curwen argraffu y gerddor- iaeth yn ei nodiant ei hun. A ffaith arall ydyw fod rhyw fath o adroddiad o eiddo Mr. Hullah wedi ei anfon yn ddistaw i'r gwahanol ysgolion athrawol. Pa bath ydyw ei gynwysiad nidydymyngwybod, aeymddengys nad ydyw Mr. Curwen wedi cael gwybodaeth. Osydyw yr adroddiad crybwylledig yn dal rhyw gysylltiad a chyfundrefn Mr. Curwen, y mae y teimlad o degwch sydd yn mynwes pob Brydeiniwr yn galw am i gopi o hono gael ei roddi iddo yn ddioed. Ac yn wir, y mae yn anhawdd gweled ar ba dir y gall swyddog ag sydd yn ngwasanaeth y wlad anfon unrhyw adroddiad dirgel i neb ar achos o'r fath. Byddai ganddo hawl i anfon cylchlythyr yn galw am ystadegau, &c, i'w alluogi i ddarparu adroddiad; oud y mae taenu adroddiad dir- gelaidd yn beth ag na fedr syniad y Prydeinwyr ddim ei ganiatau. M a hyderwn fod ofnau Mr. Curwen yn ddisail; ac y ceir fod pcrffaith degwch yn cael ei wneyd yn y niater pwysig hwn.