Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEEDDOE Y TONIC SOL-FFA. GWAITH Y TAFOD. (Parhad o tu dal. 5.) Y gwaith nesaf, a'r uchaf a fedd y tafod mewn cysyllt- iad a'r deall ydyw, gweinyddu addysg. Gellir meddwl wrfch agwedd rhai pobl nad ydynt yn golygu fod eu tafodau wedi eu creu at un gwaith ond adrodd geiriau segur, gweigion, a chellweirus, a gwasanaethu ffolineb a gwagedd. Ond pan edrychwn i'r Beibl, llyfr mawr egwyddorion a rheolau ein bywyd, yr ydym yn cael fod yDO fwy o sylw yn cael ei dalu i waith y tafod nag i writh un ran arall o'r corph, le, nag i waith holl aelod- au y corph ynghyd; ac un rheswm am hyny, mae yn ddiau, ydyw cysylltiad y tafod mewn modd arbenig a dyn fel creadur rhesymol a chyfrifol. Am bob gair segur y rhydd dyn gyfrif; ond ni ddywedir, am bob cam gwag, nac am bob ysgogiad diles o eiddo y llaw. Y mae llyfr y Diarhebion yn llawn o'r gocheliadau, y rhybuddion, a'r addysgiadau mwyaf pwysig gydagolwg ar y tafod. Mae llyfr y Salmau yr un modd ; ac y mae y prophwydi a'r apostolion yn rhoddi y pwys mwyaf ar y pwnc. Pe ymgymerai ein pobl ieuainc am ychydig fisoedd a chasglu ynghyd bob peth a geir yn y Beibl gyda golwg ar y tafod a'i waith, byddai yn draethawd o'r fath bwysicaf a mwyaf gwerthfawr; ac yr ydym yn meddwl ei bod yn llawn bryd i rieni ac athrawon ein gwlad droi sylw y rhai sydd dan eu gofal at hyn. Os gwaith uchaf a phenaf y tafod, mewn cysylltiad a'r deall, fel y crybwyllasom, ydyw gweinyddu addysg, yr ydym yn meddwl mai ychydig o'r gwaith goreu hwn a wneir gan liaws mawr yn ein gwlad a'u tafodau. Y mae addysg cto i'w weinyddu i ddyn fel y màe yn greadur perthynol i'r byd hwn ac i'r byd arall. Y mae ganddo lawer iawn o wahanol ddyledswyddau yn ei gysylltiad a'r byd hwn; ac y mae yn anmhosibl iddo wneyd dira yn iawn heb gael ei addysgu. Mae y rhai a gawsant addysg ac hyfforddiant i weinyddu i'r rhai aa chawsant ddim, neu y rhai na chawsant ond ychydig. Yn y lle hwn, gwaith yr ieuanc, yn benaf, ydyw gwrando a holi. Ffol y cyfrifìr y dyn ieuanc, a Welir ar ol dechreu agor ei lygaid ar y byd, a chanfod ychydig obetliau na wyddai ddim o'r blaen yn eu cylch, yn ym- ddangos fel yn tybied nad oes neb arall yn gwybod dim ond efe; ac y mae yn amlwg fod rhyw ddiffygion pwysig wedi bod yn rhywle, ac ar ran mwý nag un, aae yn debyg, pan ẃelir dyn neu ddynes wedi tyfu i oedran ac yn anwybodus. Dylai ymddiddanion cy- öredin fod a thuedd ynddynt, fel rheol, i gyfranu a derbyn addysg—yr oedranus, y profiadol, a'r dysgedig i gyfranu, a'r ieuanc i dderbyn. A'r prif offeryn yn y pwnc o gyftanu addysg ydyw y tafod. Y mae gan ddynion i ddysgucelfyddydau a gwahanol orchwylion mewn trefn i enill bywioliaeth, neu yn «ytrach, mewn trefn i osod eu hunain yn y sefyllfaoedd mwyaf manteisiol i wneuthur daioni. Nid ydyẅ enill oara a chaws—ymborth a dillad a chysuron y byd a'r *>ywyd presenol,—yn amcan digon uchel i ddyn; ond y ™ae i lafurio ynghylch y pethau hyn oll mewn trefn i Syrhaeddyd amcanion sydd sydd uwch. Y mae dyn i gofio hefyd fod yn perthyn iddo nid rhan anifeiliidd yn unig, ond ei fod yn perchen ar feddwl. Yn wir, dylai y gallu sydd ganddo i lefaru beru nas gallo anghofio yr ýstyriaeth hon. Ac os ydyw efe, yn rhinwedd y meddwl hwn, a'r tafod sydd yn ei wasan- aethu, gymaint yn uwch na'r creaduriaid sydd o'i am- gylch, onid ydyw yn canlyn yn naturiol y dylai ei ymdrech i ddiwyllio, i gyfoethogi, a phry.lferthu y meddwl fod ynllawermwy na'iymdrechion gydagolwg ar y corph a'i anghenion ? Nidydyw dyn heb dJiwyllio ei feddwl ond gwael a gwag iawn fel aelod o gym- deithas. Ond yr addysg uchaf oll ag y eall dyn ei derbyn a'i chyfranu ydyw addysg grefyddol; a phan y mae y tafod ar waith yn y gorchwyl gogoneddus a phwysig o ddysgu dyn, neu ddynion, yn mhethau crefydd, y mae wrth y gorchwyl uchaf sydd yn perthyn iddo mewn cysylltiad a'r deall. Gall, a dylai, y fam ddefnyddio ei thafod i ddifyru a chadw y plant bach yn daẃel a chysurus o amgylch yr aelwyd ; gall, a dylai, hyfforddi y ferch yn yr holl orchwylion pwysig sydd yn perthyn i " gadw ty;" gall, a dylai, ei chyfarwyddo i wau, i wni'o, i olchi, i bobi, i foâ yn ddarbodus, yn drefnus, yn lan- waith, ac yn ddiesgeulus.—Ni ddylai, meddwn, adael y pethau hyn heb eu dysgu i'r ferch. Dylai y tad, yr un modd, gyfranu pob gwybodaeth a fedd, hyd eithaf ei allu a'i gyfleusderau^i'w blant; a dylai eu hanfon i'r ysgol ddyddiol.. fel y caffont y manteision goreu i ym- ddarparu gogyfer a'u gwaith a'u sefyllfa yn y dyfodol. Ond gwaith mawr, pwysicaf, y fam a'r tad yn eu cysylltiad a'r plant, ydyw eu dysgu yn ngwirioneddau crefydd. Ac os nad ydynt yn defnyddio eu tafod yn fynych i wneyd hyn, y maent hwy eu hunain yn ol o gyflawni dyledswyddau pwysicaf eu bywyd, ac y mae eu plant yn cael eu dwyn i fyny yn yr anfantais fwyaf gyda golwg ar y byd hwn a'r byd a ddaw. Mwn cysylltiad a'r gwaith arbenig hwn o eiddo y tafod, y mae yr Ysgol Sabbathol, a chyfarfodydd eraill yn yr un cyfeiriad, o werth amhrisiadwy. Yma y mae pawb yn cael mantais naill ai i gyfranu neu i dderbyn gwybodaeth am y pethau hyny sydd yn dal y cysylltiad agosaf a'u sefyllfa dragwyddol. Ac yr ydym yn mawr obeithio fod ca-riad a sel ein plant a'n pobl ieuainc, nid yn lleihau, ond yn myned yn fwyfwy ar gynydd gyda'r sefydliadau rhagorol hyn. Wrth adael y rhan bwysig hon o waith y tafod mewn cysylltiad a'r deall, gallwn ymuno a'r prophwyd hefyd, a dywedyd, " Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu,. yn cyhoeddi heddwch; a'r hwn sydd yn mynegu daioni, yn cyhoeddi iachawdwr- iaeth." BWEDD Y GOLYGYDD. J. "R.—Y mae ein lle yn brin, fel nas gallwn wneyd " Ystafell" i hen Alawon. Oedwir yr " Ystafell" hono yn y Ceeddob CîüaEiG; a rhoddir yr hen Alawonyn- ddi rhag myned ar ddifancoll. Y mae ynddi eisoes dros 120 o Alawon, ac amryw o honynt mewn gwahanol ddulliau.